google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 16 2026

Nofiwr o Abertawe wedi marw ar ôl mynd i drafferthion ar draeth

73cb6130 4318 11f0 b6e6 4ddb91039da1.jpg

Advertisements

Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio ym Mae Tor, Penmaen, Abertawe ar brynhawn dydd Gwener, meddai Heddlu’r De.

Cafodd ymgyrch ei lansio i dynnu’r dyn 50 oed o Sandfields, Abertawe allan o’r dŵr yn dilyn y digwyddiad – wnaeth ddigwydd am tua 13:00, Mehefin 6.

Roedd nifer o wasanaethau brys yn bresennol, gan gynnwys Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r heddlu.

Cafodd marwolaeth y dyn ei chadarnhau gan barafeddygon am tua 16:00, ac mae teulu’r dyn wedi cael gwybod.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod timau o Oxwich a’r Mwmbwls wedi cael eu hanfon yno, ynghyd â hofrennydd Gwylwyr y Glannau a chychod achub yr RNLI o’r Mwmbwls, Horton a Phort Einon.

Dywedodd yr heddlu y bydd diweddariad pellach pan fydd hynny’n bosib.


BBC News

See also  Jamie Roberts - o'r stadiwm rygbi i'r ysbyty

Check Also

AS Reform Sarah Cooper-Lesadd yn symud i Blaid Cymru

Cafodd Ms Cooper-Lesadd ei hethol i’r Senedd fis Mai i gynrychioli Pen-y-bont Bro Morgannwg. Ers …

Reform MS Sarah Cooper-Lesadd plans to defect to Plaid Cymru

Plaid Cymru’s ruling body is meeting Tuesday afternoon to discuss the defection of a Reform …

Arweinydd Reform Cymru yn ymddiswyddo ar ôl cael ei ‘gyfeirio at yr heddlu’

Mae Dan Thomas wedi ymddiswyddo fel arweinydd Reform yng Nghymru. Mewn datganiad, dywedodd: “Dros y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime