google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 15 2026

Jamie Roberts – o’r stadiwm rygbi i’r ysbyty

14f4eec0 3264 11f0 a49f c9b3f726f556.jpg

Advertisements

Ym mis Awst, bydd y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Jamie Roberts, yn cyfnewid y bêl hirgron am stethosgop ac yn cwblhau ei hyfforddiant fel meddyg.

Er iddo raddio o Ysgol Feddygaeth Caerdydd dros ddegawd yn ôl, mae’r cyn-ganolwr yn dechrau ar ddwy flynedd o hyfforddiant sylfaen mewn ysbytai yn ne Cymru.

Yn ystod ei gyfnod yn chwarae rygbi fe enillodd 94 o gapiau dros Gymru a chynrychioli’r Llewod, gan sgorio 14 cais.

Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad yn 2008 ac yn 2009 cafodd ei enwi yn chwaraewr y gyfres yn dilyn taith y Llewod i Dde Affrica.

Er ei fod hefyd yn chwarae i’r Gleision ar y pryd, fe lwyddodd i gwblhau gradd meddygaeth.


BBC News

See also  Drones carrying blood to be trialled in Wales

Check Also

Gyrrwr a laddodd athletwraig Team GB i gael ei alltudio i Rwmania

Symudodd Barbu i Brydain yn 2002 gan weithio fel cogydd yn nhafarn yr Old Pandy …

Heddwas wnaeth ddyrnu dyn wedi defnyddio ‘grym afresymol’ – gwrandawiad

Ym mis Mai 2023, cafodd yr heddlu eu galw i Borthmadog yn dilyn adroddiad am …

Brendon McCullum wants Kevin Pietersen to challenge methods in coaching role

McCullum said Pietersen was “shocked” when he first called him about “helping us challenge for …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime