google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Noel Thomas: Derbyn iawndal Swyddfa’r Post ‘ddim yn rheswm i ddathlu’

Mae Mr Thomas, 77, yn gobeithio y bydd y setliad yn ei alluogi i “sicrhau fod fy nheulu yn iawn”.

Ond mae’n poeni am is-bostfeistri eraill sydd, erbyn hyn, yn ffrindiau iddo yn sgil sgandal Horizon.

“Mae’r cwffio ar ran nifer fawr o bobl eraill – nifer ohonyn nhw yn ffrindiau da i fi bellach – sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal yma, yn parhau.”

Ychwanegodd ei fod yn cefnogi un o arweinwyr ymgyrch y postfeistri, Sir Alan Bates o Landudno, sydd wedi bygwth cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU os na fydd pawb wedi derbyn iawndal erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

“Mae Syr Alan wedi sôn am hynny a faswn i yn berffaith fodlon ei gefnogi, achos dydi o ddim yn deg,” meddai Mr Thomas.

Ymgyrch Syr Alan i sicrhau cyfiawnder i’r is-bostfeistri wnaeth ysbrydoli drama ITV Mr Bates vs The Post Office.

“Fe wnaeth y ddrama gael effaith enfawr ar yr ymgyrch ac mae hi ‘di bod yn flwyddyn ryfeddol,” meddai Mr Thomas.


Source link

Views: 1

See also  Llandudno: Queen of Welsh resorts loses bust of Queen Victoria

Check Also

Hosts Wales bow out of U19 Euros with Denmark defeat

Wales’ hopes of securing a Fifa Under-20 World Cup play-off place were ended after a …

Wales trio Phillips, Neumann and Fleming to leave Harlequins

Wales internationals Carys Phillips, Lisa Neumann and Abbie Fleming will leave Harlequins at the end …

Ffordd yng nghanol Abertawe ar gau ar ôl i dân achosi mwg du

Mae ffordd yng nghanol Abertawe wedi cau wedi i dân mewn safle diwydiannol achosi cwmwl …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Bp batam tinjau kesiapan asrama haji jelang musim haji 2025.