google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Ni wedi gorfod talu ein morgais ddwywaith – mae’n sefyllfa ofnadwy’

Advertisements

Yn ôl Helen Knapman o wefan MoneySavingExpert, mae cau’r cwmni cyfreithiol wedi cael “effaith eang”.

“Nid dim ond un cwmni oedd PM Law, ond sawl un gwahanol, yn masnachu dan ddwsinau o enwau gwahanol,” meddai.

“Roedd ganddyn nhw ddegau o filoedd o gwsmeriaid, a degau o filoedd o ffeiliau cwsmeriaid.”

Ychwanegodd y dylai’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gysylltu gyda’r SRA, ond bod nifer o gwsmeriaid yn gweld oedi yn eu hachosion oherwydd bod gwaith papur ar goll.

“Edrychwch drwy eich e-byst, unrhyw hen ddogfennau allai fod wedi cael eu harbed,” meddai.

“Ceisiwch ddod o hyd i unrhyw beth allai helpu symud eich achos ymlaen gyda chyfreithiwr newydd.”

Roedd cau’r cwmni’n ddirybudd hefyd wedi dal cwsmeriaid yn annisgwyl, meddai.

“Fel arfer pan mae cwmni cyfreithiol yn cau, mae’n rhaid iddyn nhw roi gwybod i’r SRA o flaen llaw, a rhoi pethau penodol yn eu lle i geisio amddiffyn eu cwsmeriaid cyn cau,” meddai.

“Beth sy’n anarferol iawn fan hyn yw nad oedd rhybudd – fe roddodd PM Law wybod i’r SRA eu bod nhw’n cau ar y diwrnod hwnnw.

“Dyna pam bod hynny wedi creu’r sefyllfa anffodus ble mae pobl wedi cael eu gadael yn y llanast, ddim yn gwybod beth sy’n digwydd, a’r SRA yn gorfod casglu’r briwsion.

“Mae wedi bod yn broses hir a llafurus i bawb, yn anffodus.”


BBC News

Views: 0

See also  Carcharu dyn am gadw arfau anghyfreithlon mewn eiddo

Check Also

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026

Dywedodd Rhys Dilwyn Jenkins, cadeirydd y panel beirniaid: “Wrth ddathlu pen-blwydd gwobrau Tir na n-Og …

Louis Wain paintings found in skip sells for £16,000

Paintings were hung in a couple’s home for years before they learned who had painted …

Costau diwylliant a chwaraeon yn atal ‘gormod o lawer’ o blant – gweinidog

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y gweinidog newydd dros ddiwylliant a chwaraeon yn Llywodraeth …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.