Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod wedi cyhoeddi Cynllun Gweithlu Addysg yr wythnos hon gan ychwanegu: “Athrawon a staff cymorth yw asgwrn cefn ein system addysg.”
Ychwanegodd y byddai pob aelod o staff ysgol, nid dim ond athrawon, yn cael eu hyfforddi i gefnogi plant ag anghenion ychwanegol, er mwyn gwella’r ddarpariaeth.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw’n rhoi cymhelliant ariannol neu ad-daliad i raddedigion sy’n hyfforddi fel athrawon yng Nghymru a sy’n ymrwymo i addysgu yng Nghymru am o leiaf bum mlynedd.
Dywedodd eu llefarydd addysg, Natasha Asghar AS, fod ganddynt gynllun sy’n “cefnogi athrawon”, a fyddai’n “adfer disgyblaeth, yn lleihau biwrocratiaeth ddiangen, ac yn sicrhau bod staff yn cael y gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau – addysgu”.
Mae Plaid Cymru yn honni bod Llafur wedi methu â chynnal safonau sylfaenol addysg dros 27 mlynedd mewn grym.
Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Cefin Campbell AS y byddai’r blaid yn cyflwyno strategaethau llythrennedd a rhifedd i “godi safonau”, a system sy’n denu a chadw athrawon, wrth wella problemau fel presenoldeb ac ymddygiad gwael ymysg disgyblion.
Mae Reform yn addo torri biwrocratiaeth “er mwyn i athrawon gael addysgu”, a chefnogi athrawon drwy “adfer disgyblaeth mewn ysgolion, cymryd agwedd dim goddefgarwch at ddisgyblaeth a gwahardd ffonau symudol o ysgolion”.
Ychwanegodd Laura Anne Jones AS bod “recriwtio a chadw athrawon, yn enwedig mewn pynciau craidd, yn un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r byd addysg yng Nghymru”.
Mae’r Blaid Werdd yn addo gwella recriwtio a chadw athrawon, gwella amodau gwaith gyda rhagor o gyflog am amser paratoi, a chynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfa.
“Rydyn ni’n adnabod y pwysau ychwanegol mae staff yn eu hwynebu gan blant gydag anghenion ychwanegol, felly byddwn yn cryfhau’r cydweithio rhwng ysgolion, awdurdodau a gwasanaethau iechyd i gefnogi disgyblion yn well”, meddai llefarydd.
Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyflwyno strategaeth i fynd i’r adael â recriwtio, a chynyddu cyllid i ysgolion fesul disgybl uwchben cyfradd chwyddiant.
Dywedodd llefarydd y byddai’r blaid yn “buddsoddi mewn blynyddoedd cynnar” a sicrhau bod “cefnogaeth arbenigol ar gael mewn ysgolion yn hytrach na bod y baich ar athrawon yn unig”.
BBC News