google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Newidiadau i fudd-daliadau ‘wedi dychryn pobl’, yn ôl AS Llafur

Advertisements

Fel rhan o ddatganiad y Gwanwyn, fe gyhoeddodd y Canghellor sawl newid i’r system budd-daliadau.

Mae’r newidiadau yn cynnwys tynhau rheolau cymhwyster ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol – y prif fudd-dal anabledd – sy’n cael eu hawlio gan fwy na 250,000 o bobl yng Nghymru.

Wrth annerch ASau, dywedodd Ms Reeves “nad yw’n iawn diystyru cenhedlaeth gyfan sydd allan o waith ac sy’n camddefnyddio PIPs”.

Cadarnhaodd hefyd y bydd credyd cynhwysol cysylltiedig ag iechyd ar gyfer hawlwyr newydd, a oedd eisoes i’w haneru o fis Ebrill 2026 o dan becyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, bellach yn cael ei rewi ar lefel is newydd o £50 yr wythnos tan 2030.

Bydd taliadau cysylltiedig ag iechyd hefyd yn cael eu rhewi ar gyfer hawlwyr presennol.

Fe wnaeth asesiad gan yr adran Gwaith a Phensiynau ganfod y bydd 3.2m o deuluoedd ar draws Lloegr a Chymru ar eu colled o ganlyniad i’r newidiadau, gyda 250,000 yn fwy o bobl yn cael eu gwthio i dlodi.


BBC News

Views: 0

See also  50 mlynedd ers recordio Bohemian Rhapsody yng Nghymru

Check Also

Brecon man fined for dragging pony tied to a vehicle

Nic de Brauwere, the veterinary expert witness in the case, provided a statement to court, …

Dedfryd arall o garchar i gyn-arweinydd am gam-drin plant yng Ngwynedd

Mae cyn-arweinydd y Cadetiaid Môr wedi cael dedfryd o 15 mlynedd yn y carchar am …

Pryd fydd y polisi i ymestyn gofal plant am ddim yn dechrau?

Dywedodd David Phillips o’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ddydd Mercher fod llywodraeth newydd Plaid Cymru yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
howard capital management.