google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Nefoedd ar y ddaear’: Ddoe a heddiw yn Ninas Dinlle

Tua diwedd y 19eg ganrif gwelodd rhywun gyfle i wneud yn fawr o’r stribyn o dir ar hyd glan y môr ger pentref Llandwrog ac adeiladu clamp o westy yno, y Caernarvon Bay Hotel.

Erbyn 1905 roedd bythynnod gwyliau a dau gaffi yno hefyd.

Mae ysgrif yn y cylchgrawn Cymru o 1905 yn sôn bod bardd o’r enw Thomas Parry, neu Dinlle yn ôl ei enw barddol, yn rhedeg un o’r caffis yma, ac yn treulio’r haf yn gweini twristiaid a’r gaeaf yn cael llonydd i farddoni.

Roedd y caffis hyn, lle mae siopau’n gwerthu sglodion, hufen iâ a nwyddau glan môr heddiw, yn swatio dan ‘Boncan Dinas’.

Bryngaer o oes yr haearn ydi’r boncan; dyma’r ‘Dinas Dinlle’, neu Ddinas Lleu, gwreiddiol sydd wedi rhoi ei enw i’r traeth a’r dreflan sydd bellach wedi datblygu yma. Dywedir mai caer Lleu Llaw Gyffes, y cymeriad chwedlonol o’r Mabinogi, oedd hi.


BBC News

Advertisements

See also  Yr Eisteddfod wedi bod yn 'hwb' i fusnesau Wrecsam

Check Also

Kemi Badenoch leaves door open to Tory support for Plaid government budget

Conservative leader Kemi Badenoch has not ruled out the Welsh Tories helping Plaid Cymru ministers …

World Rally Championship: Elfyn Evans makes steady start to title bid in Sardinia

Eflyn Evans struck a blow against his nearest title rival, but conceded time to another, …

Prince of Wales tells villagers ‘holistic’ approach is needed on flooding

On Thursday, the royal spoke to villagers Rod and Helen Wyatt at their garden gate …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime