google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Mwy nag erioed yn derbyn addysg y tu allan i’r brif ffrwd

Mae nifer y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg y tu allan i ysgolion prif ffrwd, gan gynnwys mewn unedau cyfeirio, wedi codi i’r lefel uchaf erioed yng Nghymru.

Mae cyfradd y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg y tu hwnt i’r ysgol hefyd ar ei uchaf erioed, yn ôl ffigyrau blynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae’r duedd wedi cynyddu yn ystod y 14 blynedd ddiwethaf, ond credir bod mwy o atgyfeiriadau ynghylch anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl disgyblion ers cyfnod Covid-19.

Mae 2,279 o ddisgyblion yn cael eu dysgu y tu allan i’r brif ffrwd, sef y nifer uchaf erioed – mwy na dwbl y nifer yn 2009-10, a 28% yn uwch na’r ganran cyn y pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, dan yr amgylchiadau hynny, bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda theuluoedd er mwyn sicrhau bod plant yn cael y gefnogaeth sydd ei angen.


Source link

See also  Man admits punching former boxing world champion Joe Cordina

Check Also

Cyhuddo gyrrwr ifanc o achosi marwolaeth seiclwr yn Sir Gâr

Mae dyn ifanc wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth seiclwr yn …

WRU staff safer after culture changes, says watchdog

Rugby players, coaches and staff are now safer working at the Welsh Rugby Union (WRU) …

Wrexham AFC opens Colliers Park pavilion without planning permission

Meanwhile, Natural Resources Wales questioned the project’s sewage and drainage plans. After reviewing the proposals, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime