google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Modd osgoi marwolaethau efeilliaid ar ôl eu geni,’ medd crwner

Fe ddywedodd Crwner Cynorthwyol Canol a Gorllewin Gogledd Cymru, Kate Robertson, bod “methiant enbyd” wedi bod i ddarparu gofal meddygol addas i’r fam a’i phlant, a bod cysylltiad clir rhwng hynny â’r marwolaethau “a ellid fod wedi eu hosgoi”.

Ychwanegodd na ddylai saib wedi bod yn yr arsylwi cychwynnol yn yr uned asesu mamolaeth ar 15 Gorffennaf, a na ddylai Ms Jones fod wedi cael mynd adref, a hithau heb glywed pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

“Roedd Glian, Alys ac Efa yn dibynnu ar eraill yn yr ysbyty… ac wrth ystyried hyn oll… roedd methiannau enbyd yn y gofal meddygol,” meddai.

“Fe wnaeth esgeulustra gyfrannu at farwolaethau Alys ac Efa.”

Fe ddywedodd y crwner na fyddai hi’n cyflwyno adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol am iddi weld tystiolaeth fod newid a dysgu wedi digwydd yn y bwrdd iechyd, a’i bod hi wedi derbyn “cadarnhad y byddai dysgu pellach”.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ymateb.

Cafodd achos meddygol marwolaethau’r efeilliaid ei gofnodi fel anaf amenedigol i’r ymennydd.


Source link

Advertisements

See also  Gwynedd: Fears A487 landslide may close road for months

Check Also

World Rally Championship: The five titles that got away as Elfyn Evans closes in on elusive crown

A revamp of the points system for 2025 was welcomed by Evans; it also brought …

Cardiff police chase drug dealer posing as fast food delivery courier

This is the moment a drug dealer tried to evade police on foot while posing …

Sefyllfa tai cymdeithasol Pen Llŷn yn ‘annheg’ ar bobl ifanc lleol

“Mi oedd o’n swnio’n grêt ar y cychwyn”, meddai’r cynghorydd sir dros Ben draw Llŷn, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime