google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mis Balchder 2024: Pam fod Balchder dal yn bwysig

Mae Lewis, sy’n cael ei adnabod fel Bendigaydfran, yn mynychu Pride Cymru pob flwyddyn.

“Y tro cyntaf es i, roeddwn i yn y brifysgol a doeddwn i ddim ‘di dod allan eto. Dwi’n cofio mynd a meddwl ‘waw, ma’ hyn mor cŵl’, ac roedd hi mor neis jest i weld pawb yn dathlu.

“Wnaeth e ysbrydoli fi lot yn fewnol. Wnaeth e wneud i fi deimlo fel oedd e’n iawn i fod ynof i fy hun. Mae’n swnio fel cliché, ond sai’n credu mai pobl sydd ddim yn profi hon yn deall – mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth jest i gael y gwelededd ‘na. Rhywbeth mor fach â gweld dau ddyn yn dal dwylo, yn agored yn y stryd. Mae’r teimlad yna o ‘o, dwi’n gallu gwneud hwnna’.

“Mae’n dda i weld hefyd bod Pride Cymru wedi tyfu a thyfu ers hynny, a dwi mor falch ein bod ni’n dathlu yn y castell nawr, achos mae’r castell yn symbol o’r ddinas a chael Pride Cymru yna – mae’n pwysleisio pwysigrwydd y digwyddiad.

“Mae Balchder wastad ‘di bod yn symbol o ddiogelu ein hawliau, ond hefyd mae’n ddathliad o’n cymuned a pha mor bell rydyn ni wedi dod. Mae’n siawns i adlewyrchu ar y bobl sydd wedi dod cyn, a oedd yn brwydro dros ein hawliau.

“Mae’n amlwg, dwi’n credu, ein bod ni dal angen Balchder; yn enwedig yn ddiweddar. Tra bod pobl mas na sy’n meddwl mai’r byd yn well hebddyn nhw, jest achos eu hunaniaeth, ni angen Balchder. Tra bod pobl yn meddwl dydyn nhw ddim yn ddigon achos sut maen nhw fel person, achos maen nhw’n caru rhywun o’r un rhywedd, neu eu hunaniaeth rhywedd, mae angen Balchder.”


Source link

Advertisements

See also  Techneg glasurol yn hudoli crefftwraig o Gymru

Check Also

Adran Premier: TNS score late winner to end Wrexham’s 100% record

Sunday, 4 October Wrexham 2-3 The New Saints The New Saints ended Wrexham’s perfect start …

WRC: Elfyn Evans is world champion after late Oliver Solberg crash

1. Elfyn Evans (Great Britain), Toyota, 243 points 2. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, 238 3. …

Elfyn Evans yn ennill Pencampwriaeth Ralïo y Byd am y tro cyntaf

Roedd disgwyl i’r rali olaf ddigwydd yn Saudi Arabia ym mis Tachwedd, ond cafodd ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime