google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Merch, 17, wedi marw ar ôl cael ei thrywanu sawl gwaith – cwest

Advertisements

Bu farw merch 17 oed o Gefn Fforest, Sir Caerffili, ar ôl cael ei thrywanu sawl gwaith, mae cwest wedi clywed.

Bu farw Lainie Williams yn Wheatley Place, Cefn Fforest, ger y Coed-duon tua 07:15 ar 13 Tachwedd.

Mae Cameron Cheng, 18, o Drecelyn, Sir Caerffili, wedi’i gyhuddo o’i llofruddio, ceisio llofruddio ei mam Rhian Stephens ac o fod â llafn miniog yn ei feddiant.

Bydd yn wynebu achos yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mai 2026.

Dywedodd Crwner Gwent, Rose Farmer, ei bod yn agor y cwest gan fod marwolaeth Ms Williams yn “dreisgar”.

Clywodd y cwest fod patholegydd o’r Swyddfa Gartref wedi cofnodi achos ei marwolaeth fel “sawl anaf gan lafn miniog”.

Dywedodd Ms Farmer y byddai’r cwest yn cael ei ohirio tra bydd yr ymchwiliad yn parhau ac y byddai’n ailddechrau ar 24 Awst 2026.


BBC News

Views: 0

See also  South Africa says 17 citizens trapped in Donbas after joining Russia-Ukraine war

Check Also

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad beic cwad ger Llandrillo

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Llandderfel a Llandrillo. Digwyddodd y …

County Championship: Glamorgan seal innings win over Hampshire

Glamorgan completed a County Championship victory over Hampshire for the first time since 1991, and …

‘Siomedig a dig’ – etholwyr heb bleidleisiau post cyn etholiad

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae eu canfaswyr wedi siarad â nifer o bobl yng …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.