google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Merch, 16, fu farw wedi ‘cymysgu â’r criw anghywir’ – cwest

Fe wnaeth merch, 16, a fu farw mewn cartref arbenigol i blant ger Wrecsam “gymysgu â’r criw anghywir” a wnaeth fanteisio arni’n rhywiol a’i harwain i droseddu, clywodd cwest.

Pan yn 15 oed, clywodd y gwrandawiad fod Caitlin Imber – a oedd yn cael ei hadnabod fel Caiti – yn dosbarthu cyffuriau yn anghyfreithlon i ddyn ym Manceinion. Roedd hefyd yn meithrin perthynas amhriodol o natur rywiol gyda hi.

Cafodd Caiti ei chymryd i ofal awdurdod lleol, ac fe gafodd ei chanfod yn farw yn ei hystafell wely yn y cartref ym mis Rhagfyr 2022.

Cofnododd cwest gasgliad naratif, gyda’r crwner yn dweud, er ei bod wedi hunan-niweidio, ei bod yn debygol nad oedd hi’n bwriadu dod â’i bywyd i ben.

Yn ystod y gwrandawiad pedwar diwrnod cafodd Caiti, a oedd yn byw yn Kidsgrove yn Sir Stafford, ei disgrifio fel “plentyn doniol a hoffus iawn”, a dywedodd ei theulu ei bod yn “fywiog a disglair”.

Pan oedd hi’n 14, dechreuodd ysmygu canabis yn rheolaidd gyda ffrindiau gan symud ymlaen i ddefnyddio cetamin.

Dywedodd ei mam, Aimi Imber, wrth y cwest “ei bod wedi newid yn gyflym a’i bod hi’n anodd i’w rheoli”.

“Ceisiais ei hatal rhag gadael adref a chymryd ei ffôn, ond ar un achlysur, neidiodd allan o ffenestr ar y llawr cyntaf.

“Roedd hi mewn hwyliau hunanddinistriol ac ond yn gwneud yr hyn a ddymunai.

“Mae’r teimlad yna nad ydych chi’n gallu helpu eich plentyn eich hun yn erchyll. Mae’n effeithio ar eich iechyd meddwl eich hun,” ychwanegodd.


BBC News

Advertisements

See also  Test Match Special

Check Also

Kemi Badenoch leaves door open to Tory support for Plaid government budget

Conservative leader Kemi Badenoch has not ruled out the Welsh Tories helping Plaid Cymru ministers …

World Rally Championship: Elfyn Evans makes steady start to title bid in Sardinia

Eflyn Evans struck a blow against his nearest title rival, but conceded time to another, …

Prince of Wales tells villagers ‘holistic’ approach is needed on flooding

On Thursday, the royal spoke to villagers Rod and Helen Wyatt at their garden gate …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime