google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Menyw’n ‘rhyfeddu’ ar ôl i fideo priodas o’r 60au gael ei ganfod mewn siop

Advertisements

Dywedodd Mr Forrester, sy’n astudio ym Manceinion, ei fod yn falch iawn o rannu’r ffilm gyda’r teulu ar ôl trosglwyddo’r ffilm yn ddigidol.

“Roeddwn i’n ei wylio, ac fe wnes i feddwl, mae hon yn ffilm neis iawn, ond does dim gwerth ynddi i fi. Roedd mwy o werth i’r bobl yn y fideo,” meddai.

“Es i i chwilio am dudalen cymuned Aberteifi [ar Facebook]. ‘Wnes i rannu neges, a do’n i ddim yn disgwyl llawer o ymateb.

“Ond ar ôl awr, roedd gen i bron i 100 o ymatebion!”

O fewn diwrnod, fe ddaeth i gyswllt gyda brawd Beryl, wnaeth adnabod y cwpl yn y llun.

“Roedd hyn i gyd oherwydd fy chwilfrydedd. Doedd gen i ddim bwriad dod o hyd i beth bynnag oedd ar y rîl a’i anfon i rywun,” dywedodd.

“Ond gan mai priodas rhywun oedd y fideo, a’i fod mor bersonol, roedd yn rhaid i fi drio dod o hyd i’r teulu.

“Fydden i wedi bod wrth fy modd yn gweld eu hymateb, mae e mor arbennig iddyn nhw.”


BBC News

Views: 0

See also  Wales suffer Holland blow for World Cup qualifiers

Check Also

Dyn wedi'i gyhuddo o dreisio ger Eisteddfod Boduan yn 'gwadu bob dim'

Dyn o Ddyffryn Conwy sydd wedi’i gyhuddo o dreisio dynes yn 2023 wedi dweud wrth …

Ateb y Galw: Zahra Errami

Y newyddiadurwr o Langefni sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw. BBC News Views: 2 Khamrah …

Cafe owner says allegation he raped teenager in alleyway is mind-boggling, court hears

Mohamed Usman Arshad is one of four men facing charges of child sexual exploitation and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
real estate consultant contact coconut point residences. Speed boat transport. Fishing boat transport.