
Yr her fwyaf wrth ddioddef y torcalon yma ydy’r cwestiwn at bwy y dylen i droi am gefnogaeth a bach o gymorth.
Os oes ‘na gariad sydd wedi torri fy nghalon, dwi’n troi at fy ffrind gorau sydd yna gyda breichiau agored yn barod i fy nhrwsio – ond beth os mai’r ffrind yna sydd wedi torri fy nghalon yn y lle cyntaf? Pwy sy’n mynd i fy rhoi nôl at ei gilydd bryd ‘ny?
Mae ‘torri lan’ gyda ffrind yn gallu teimlo fel un o’r profiadau mwyaf unig, yn enwedig gan nad oes llawer o gydymdeimlad gan bobl ar y tu allan.
Pan mae perthynas rhamantus yn dod i ben, mae pobl yn tecstio i ofyn os ydw i’n iawn, maen nhw’n llenwi fy DMs gyda dyfyniadau ysbrydoledig, maen nhw’n dod i fy nhŷ gyda hufen ia, blodau, gwin a rhestr hir wedi ei lamineiddio o resymau pam nad oedd rhyw ddyn bang average mewn Ford Fiesta yn werth fy amser ta beth.
Ond pan mae cyfeillgarwch yn cwympo’n ddarnau, mae yna ddisgwyliad i bawb jest delio gyda fe ar ben ei hunain fel pe na bai’n golled drychinebus.
Ry’n ni’n gweld ffilmiau a rhaglenni teledu anhygoel o’r poen sy’n dod o ysgariad neu frad rhamantus (shoutout i Doctor Foster…dwi dal heb ddod dros yr olygfa o’r dinner party) ond lle ma’r BAFTAs a’r Oscars i’r storïau am gyfeillgarwch sydd wedi cwympo’n ddarnau? (sori, dwi ddim yn cyfri Bride Wars…ffilm waethaf Anne Hathaway o bell ffordd, a dw i’n dweud hynny fel rhywun wnaeth dioddef 90 munud o Rio 2).
Rydyn ni’n fwy ymwybodol nawr nag erioed o’r blaen pa mor beryglus ydy unigrwydd. Ac ers y pandemig (sori i godi’r pwnc), mae llawer ohonom ni wedi arfer gyda bywyd ynysig.
Ond mae cyfeillgarwch yn llesol, ac yn ychwanegu sbrincl o hud i’n bywydau na ddylem ni geisio byw hebddo.
Mae yna nosweithiau dirifedi pan dw i jest eisiau cuddio mewn ystafell dywyll, yn llefain mewn i glustog achos y diwrnod / wythnos / degawd dwi’n cael, ond ar ôl jest mymryn o amser gyda fy ffrindiau gorau, dw i’n dechrau teimlo fel person cyflawn eto. Fel bod bywyd, dweud y gwir, yn eitha bendigedig.
Achos os oes gen i’r ffrindiau yna wrth fy ochr, does dim byd mor ddrwg â hynny.
Source link