google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Medal arian i Gymru ym Mhencampwriaeth Para-Nofio y Byd

Mae’r nofwraig Ela Letton-Jones o’r Felinheli yng Ngwynedd wedi ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Para-Nofio y Byd yn Singapore.

Fe wnaeth hi orffen yn yr ail safle tu ôl i Carol Santiago o Frasil yn y gystadleuaeth 100m dull cefn.

Roedd y Gymraes 18 oed yn cystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd am y tro cyntaf – mae’n cystadlu mewn pum ras yr wythnos hon.

Ddydd Llun bydd hi’n cystadlu yn y 100m dull pili pala , wedyn 50m dull rhydd, 100m dull rhydd a 200m dull cymysg i orffen yr wythnos.

Fe ddechreuodd Ela nofio pan oedd yn bump oed, cyn mynd yn ei blaen i ymuno â Chlwb Nofio Caernarfon.

Yn ystod ei harddegau fe gafodd ei dewis i fod yn rhan o garfanau Nofio Cymru a Nofio Gwynedd.

Mae gan Ela nam ar ei golwg sy’n golygu ei bod yn cystadlu yn y categori S12 pan yn nofio.

“S12, mae ‘na dri categori i bobl gyda nam golwg. S11 ydi’r mwyaf eithafol ac S13 ydi’r lleiaf eithafol, a dwi yn y canol,” ychwanegodd Ela.


BBC News

Advertisements

See also  Scotland's papers: Shoplifting gang 'busted' and Mandelson 'fiasco'

Check Also

Cardiff Half Marathon: Joyciline Jepkosgei sets new record

Kenya’s Joyciline Jepkosgei set a new women’s course record when winning the 2026 Cardiff Half …

Arnhydeddu’r gantores Mary Hopkin am ei ‘dylanwad parhaol’

Dechreuodd Mary Hopkin ei gyrfa fel cantores yn ei harddegau, gan berfformio ar gyfres adloniant …

Glamorgan complete squad with Hannah Jones and Amy Wheeler signings

Glamorgan have completed their squad for tier-one cricket in 2027 by signing Hannah Jones and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime