google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Marwolaethau plant Gaza yn ysgogi gwaith celf

Advertisements

Tra ar drip i sêl gist car yng Ngwalchmai ar Ynys Môn, fe wnaeth Diana ddod ar draws hen goban bedydd oedd ar werth.

Dyma hi yn ei phrynu gyda’r syniad o greu darn o gelf i gofio am y digwyddiadau yn Gaza.

“Er bod hi’n hen, roedd hi’n edrych yn newydd, do’n i’m yn teimlo mod i isio defnyddio un newydd i gyfleu y gwaith celf ond ro’n i isio ôl trawma a rhyfel ar y wisg.

“Wedyn, nes i socian godra’r wisg mewn stwff llnau dreiniau, er mwyn edrych ei fod wedi pydru rhywfaint a rhwygo er mwyn dangos y rhwyg amlwg oedd o fewn y gymdeithas.

“Mi gymerodd o bosib dros rhyw wythnos iddo rhwygo fel o’n i eisiau. Ac o’n i’n meddwl os na’i adael o ryw faint mwy fydd o wedi rhwygo’n gyfan gwbl.

“Ond o’n i eisiau pwytho enwa’ y plant o dan un oed oedd wedi marw ar y wisg. Mi wnes i wedyn fynd o’r rhestr yma a mae yna dros 300 o enwau ar y wisg wedi cael eu pwytho,” meddai.

Ar ôl gweld ei bod hi’n fuddugol, roedd Diana yn teimlo balchder mawr ar ôl dod dros y sioc o ennill.

“Ro’n i wedi mopio i ddeud y gwir a dwi mor falch fod pobl wedi cymryd yr amser i bledleisio a dwi’n gobeithio bod y gwaith o bosib yn rhoi rhyw fewnolwg gwahanol ar bethau hefyd,” meddai.

Beirniaid Arddangosfa Agored 2025 oedd Llŷr Evans, Ella Louise Jones, Ffion Evans (Rheolwr Celf a Llesiant Galeri) a Nia Arfon (Prif Weithredwr Galeri).

Yr enillwyr yn y categoriau eraill oedd Sioned Medi Evans, wnaeth ennill Gwobr y Beirniaid, ac fe aeth gwobr Canmoliaeth Uchel i Gwyn Williams.


BBC News

Views: 1

See also  Cymru Premier: Sides to share 1m euro pot - TNS chairman Harris

Check Also

‘Taid a’i dractor yn darganfod cadwyn o’r Oes Haearn ar Ynys Môn’

Mewn rhaglen newydd ar BBC Radio Cymru, Trysorau o’r Mawn, mae Haf Roberts yn cyfarfod …

Milford Haven teacher ‘feared she would die’ during pupil attack, court hears

A teacher who was stabbed in the head by a pupil with a large kitchen …

Olivia Breen: Y ‘dewis perffaith’ i arwain Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad

Dywedodd y Chef de Mission ar gyfer Tîm Cymru, Gethin Jones fod y penderfyniad ddim …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Specification 0f adria twin supreme 600 spb campervan sold. Copyright © 2026 luxury teacup puppies | powered by luxury teacup puppies.