google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mari Grug: ‘Peidio gadael canser i gymryd popeth yn fy mywyd’

Advertisements

Roedd Mari yn siarad ar Dros Frecwast ar ôl cael ei henwi’n un o saith llysgennad Ymchwil Canser Cymru. Dywedodd ei bod yn falch o allu helpu codi proffil yr elusen.

Ychwanegodd ei bod ar hyn o bryd yn mynd drwy fath newydd o driniaeth chemotherapi ac anogodd unrhywun sydd ddim yn gwybod sut i helpu rhywun sydd efo canser i gyfrannu tuag at ymchwil gwyddonol.

Meddai: “Mae pob un isie helpu. Mae pobl isie neud rhywbeth boed yn lasagna wrth y stepen drws, pigo’r plant lan o’r ysgol ond mae lot o bobl yn teimlo ‘Mari be’ allwn ni neud i helpu chdi, ni’n teimlo mor helpless mewn ffordd’.

“Mae pobl yn gofyn ‘allwn ni roi rhywbeth, ble allwn i roi arian Mari?’ Ac mae unedau chemotherapi arbennig – fi’n cael gofal arbennig yn Glangwili, yr uned yn Llanelli – ond hefyd ymchwil.

“Dwi’n meddwl onibai am ymchwil fydden i ddim yn siarad fel hyn gyda chi bore ‘ma.”

Y llysgenhadon eraill ydi Miss Cymru Millie-Mae Adams, sy’n hyfforddi i fod yn feddyg, yr athletwr Jamie Baulch; y cyflwynydd Angela Jay; y cyn-chwaraewyr rygbi Philippa Tuttiett a Nigel Walker a’r entrepreneur Rob Lloyd.


BBC News

Views: 2

See also  Brwydr 10 mlynedd Elen Wyn, seren Traitors, i gael diagnosis

Check Also

'Rhan o hunaniaeth y plant': pwysigrwydd dysgu am Aberfan

Mae dysgu am drychineb Aberfan yn “hanfodol” i hunaniaeth plant y pentref, yn ôl pennaeth …

Mimi Xu: Expectation a privilege for Wales’ teenage tennis star

Xu will likely play in qualifiers at Ilkey, Nottingham, Eastbourne and Roehampton, but the postcode …

Siom wrth i Gymru golli yn Rwmania

Colli o 2-1 wnaeth tîm dynion Cymru yn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Rwmania yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
heavy equipment transport westmoreland pa. Just a moment.... 429 too many requests.