google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Maniffesto ffug ymhlith camwybodaeth ar-lein cyn etholiad

Dydy hi ddim yn glir beth yw union darddiad y maniffesto ffug, ond daeth y BBC o hyd i dudalen a oedd wedi’i phostio a’i rhannu fisoedd cyn iddo ymddangos ar Wales Network News.

Ni wnaeth y dudalen honno ymateb ar ôl i’r BBC gysylltu.

Ymddangosodd tudalen wahanol, Doge Cymru (sydd hefyd yn cael ei alw’n Senedd Waste) ar ffrwd cyfrif X Siân, un arall o’r pleidleiswyr cudd ffuglennol.

Ar ei ffrwd, fe wnaethon ni weld postiad gan Doge Cymru, sy’n aml yn beirniadu’r hyn y mae’n ei ddisgrifio fel “y miliynau o bunnoedd a wastraffwyd gan y Senedd a Llywodraeth Cymru”.

Mewn un post, dywedodd y dudalen fod Plaid Cymru a Llafur Cymru wedi bod mewn clymblaid am “y rhan fwyaf o” gyfnod 27 mlynedd Llafur mewn llywodraeth.

Mae clymblaid fel arfer yn golygu bod gan bob plaid dan sylw weinidogion yn y cabinet.

Dim ond unwaith y mae Plaid a Llafur wedi bod mewn clymblaid ym Mae Caerdydd, am bedair blynedd o 2007.

Fe wnaeth y pleidiau gytundebau cydweithio o 2016 i 2017 ac o 2021 i 2024 ar bolisïau penodol, ond roedd Plaid Cymru yn dal i fod yn wrthblaid.

Advertisements




BBC News

See also  Sut oedd merched Oes Fictoria'n delio â'r mislif?

Check Also

Brian Barry-Murphy: Cardiff boss urges calm after winless start to Championship season

Barry-Murphy – who won promotion from League One in his first season in charge of …

Opera explores RAF base arson and Welsh nationalism

Vittle said that, across Wales, about 500,000 people – roughly 20% of the population at …

Reform ‘trying to start race row’ over Cardiff Pakistan flag

Natasha Asghar’s father, the late MS Mohammad Asghar, was born in pre-partition India and grew …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime