google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Mae gofal plant yn ddrud’ – yr her sy’n wynebu llywodraeth nesaf Cymru

Advertisements

Mae tua thraean o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru – ffigwr sydd wedi aros yn weddol gyson yng Nghymru yn ystod y tri degawd diwethaf.

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, mae angen i’r targed o ddileu tlodi plant, a gafodd ei ollwng yn 2016, gael ei adfer gan bwy bynnag a fydd mewn grym.

“Dwi’n ei ystyried yn esgeulustod truenus iawn o ran dyletswydd, uchelgais a ffocws, a hoffwn weld llywodraeth nesaf Cymru yn newid hynny.

“Allwn ni ddim fforddio gweld cenhedlaeth arall o blant yn profi’r amgylchiadau ofnadwy yma ble does dim digon o fwyd ar eu byrddau,” a dim digon o arian i’w cael nhw i’r ysgol.

Mae’r prif bleidiau sy’n sefyll yn yr etholiad yma’n anghytuno o ran sut i wneud bywyd yn fwy fforddiadwy i deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig, y Blaid Werdd, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo ymestyn gofal plant am ddim, tra bod Plaid Cymru hefyd yn cynnig taliad o £10 yr wythnos i rai teuluoedd incwm isel.

Polisi blaenllaw Reform ar gyfer mynd i’r afael â chostau byw yw cwtogi ar dreth incwm.


BBC News

Views: 0

See also  Prosesau dewis ymgeiswyr Llafur 'yn codi cwestiynau'

Check Also

Hollywood actor to join Welsh soap after learning language

Better Call Saul actor Hans Obma says Wales has “always been meaningful” to him. BBC …

URC: Late drama for Cardiff, Ospreys, Dragons and Scarlets in round 16

Cardiff have moved one step closer to finishing in the top eight and reaching the …

Homeless football team at 'breaking point' as charity risks closing

One woman with debilitating anxiety says playing for the team saved her life. BBC News …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.