google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mab a merch – un nod, tri marathon, pedair wythnos.

Mae Sean yn llysgennad i elusen iechyd meddwl Young Minds UK.

Dywedodd fod y ffigwr 3 yn fodd o gysylltu ag amcan yr elusen, sef tynnu sylw i’r ffaith fod un ym mhob tri o’r 500,000 o bobl ifanc sy’n aros am driniaeth iechyd meddwl yn gorfod aros dros ddwy flynedd.

Ychwanegodd fod iechyd meddwl hefyd yn rhywbeth sydd wedi effeithio ei deulu, felly mae’r tad a’r ferch yn rhedeg gyda’r nod o godi arian ar gyfer elusennau Mind ac Young Minds drwy’r wefan JustGiving.

“Ar y dechrau y syniad oedd cyfuno’r tri marathon o fewn amser penodedig, a dyma benderfynu ar y rhif chwech, sef tri mewn chwech,” meddai Sean.

Ond mae’r newyddiadurwr a chyflwynydd teledu yn cyfaddef er ei fod yn gallu rhedeg, dyw mathemateg ac ystadegau ddim mor gryf, ac fod yr her erbyn hyn hyd yn oed yn fwy!

Rhyw fis yn ôl ar ôl astudio’r dyddiadau roedden nhw wedi eu dewis yn fwy manwl wnaeth y ddau sylweddoli eu bod yn rhedeg y tri marathon o fewn pedair wythnos yn hytrach na chwech, fel roedden nhw wedi ei obeithio!

Yn cellwair dywedodd Sean: “Yn syml dy’ ni ddim yn gwybod be’ dy’ ni’n ei wneud! Ond ni’n gwybod ein bod yn rhedeg tri marathon!”


BBC News

Advertisements

See also  Bristol Rovers bring in Aston Villa's Sil Swinkels & Cardiff's Michael Reindorf

Check Also

Maesteg teen whose cancer returned after remission has clinical trial hope

A teenage boy with lymphoma says he coped with the return of his cancer by …

Gavin and Stacey’s Melanie Walters voted off Strictly Coming Dancing

On Sunday night’s results episode, they were sent into the dance-off against former footballer Shaun …

Ministers have role to play in WRU regions shake-up, Reform MS Llyr Powell says

The Welsh government has a role to play in holding Welsh Rugby Union (WRU) to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime