google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mab 17 oed ‘annwyl iawn’ wedi marw o anaf trywanu – cwest

Advertisements

Bu farw bachgen yn ei arddegau o anaf trywanu i’w ganol, mae cwest wedi clywed.

Clywodd Llys y Crwner Gwent fod Tristan Shae Kerr, 17, wedi cael ei ganfod yn farw ar 5 Chwefror 2026 y tu allan i adeilad ar Stryd Isaf Francis, Abertridwr, Sir Caerffili “ar ôl derbyn anafiadau difrifol”.

Cafodd yr heddlu ac ambiwlans eu galw ac mi glywodd y llys fod ei gorff wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Cafodd achos marwolaeth amodol ei nodi fel “anaf trywanu i’r corff gan gynnwys yr ysgyfaint chwith a’r galon”.

Dywedodd y crwner, Rose Farmer, fod ymholiadau’r heddlu yn parhau a gohiriodd y cwest er mwyn cynnal gwrandawiad llawn ar 24 Tachwedd 2026.

Rhoddodd teulu Tristan Kerr deyrnged iddo’n dilyn ei farwolaeth, gan ei alw’n “fab, ŵyr, nai, cefnder a ffrind annwyl iawn”.

Mae pedwar o bobl wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth mewn perthynas â marwolaeth y bachgen ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn y llys eto fis nesaf.


BBC News

Views: 3

See also  Attenborough superfan, 6, draws 100th animal for broadcaster's birthday

Check Also

Llyfr gan un o’r Beatles o siop elusen yn Aberystwyth yn gwerthu am £1,000

Dywedodd Ms Randle ei bod wedi dod ar draws y llyfr wrth symud pethau o …

‘Cyfle olaf’ i wella Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr – gweinidog

Owain Clarke, Gohebydd Iechyd Ar ddiwedd ei ddatganiad i’r Senedd mae’r gweinidog iechyd yn nodi …

Keenan Patten: Midfielder agrees short-term Newport County contract

Midfielder Keenan Patten is to stay at Newport County after agreeing a new short-team deal …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Contains custom information set by the web developer via the _setcustomvar method in google analytics. Aftermarket scale model kits.