google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llywodraeth wedi gollwng cynllun dadleuol cytundeb deintyddion

Advertisements

Mae Siôn Griffiths o ardal Aberystwyth wedi bod yn y byd deintyddol ers bron i hanner canrif.

Mae’r system ddeintyddiaeth bresennol ar chwâl, meddai, wedi i drefn newydd ddod i rym ar gyfer deintyddion y Gwasanaeth Iechyd yn 2006.

“Mae’r gwasanaeth wedi dirywio yn ofnadwy,” meddai.

“Yn arfer bod roeddech chi’n rhoi triniaeth i glaf ac fe fyddai’r claf, os nad oedd eithriad, yn talu 80% o’r pris a’r Gwasanaeth Iechyd yn talu am y gweddill.

“Roedd y drefn newydd yn golygu bod deintyddion yn cael yr un pris am driniaeth fach neu driniaeth fawr – yr un oedd y pris am filling, er enghraifft, â thynnu sawl dant a root canals.

“O dan drefn felly mae wedi bod yn anodd i ddeintyddion gario ‘mlaen gyda’r Gwasanaeth Iechyd, ac mae wedi bod yn amhosib i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd.

“Os oes person yn dod mewn nawr ac mae angen tipyn o driniaeth arnyn nhw a bod hynna yn digwydd sawl gwaith y dydd chi methu cynnal y lle.

“O ganlyniad mae nifer o ddeintyddion wedi mynd i Awstralia neu Seland Newydd neu wedi mynd i weithio’n breifat.

“Os am gael deintyddion yn gweithio ar y Gwasanaeth Iechyd rhaid i chi fynd nôl i’r system wreiddiol lle o’dd pobl yn talu am beth o’dd deintyddion yn ei ‘neud.

“Mae’n rhaid cael incentives a limitations – a dim cytundebau o gwbl gyda’r co-operates Americanaidd sy’n dod yn fwy poblogaidd.”


BBC News

Views: 1

See also  Taylor Swift: Ticketmaster yn ymddiheuro i fam mewn cadair olwyn

Check Also

Eight-year-old among paddleboarders rescued at sea

An eight year-old and two teenagers are among paddleboarders rescued after being blown offshore. BBC …

Asesiadau TGAU newydd yn ‘gymaint o straen’ ar ddisgyblion ac athrawon

Dywedodd pennaeth Saesneg yr ysgol, Siwan Rees bod “disgyblion yn cael eu hasesu rownd y …

Cyfres Amdani ar S4C Clic: ‘Roedd o’n gyfnod gwerth chweil’

Ymddangosodd y gyfres gyntaf o Amdani ar S4C yn 1999. Roedd gwylwyr y gyfres wrth …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. Yani kullanıcılar güncel cassinox giriş adresini tarayıcılarına yazar ve doğrudan erişim sağlar.