google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 22 2026

Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo fferm solar ddadleuol ar Ynys Môn

Cafodd y penderfyniad am y cynllun ei oedi ym mis Tachwedd 2024 yn dilyn dros 500 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Mae dros 900 o bobl hefyd wedi llofnodi llythyr agored yn gwrthwynebu’r cynllun.

Mae’r Aelod lleol o’r Senedd, Rhun ap Iorwerth a’r Aelod Seneddol San Steffan, Llinos Medi wedi galw’r penderfyniad yn un “hynod o siomedig”.

Maen nhw’n cyhuddo Llywodraeth Cymru o “anwybyddu pryderon” pobl leol am y cynllun.

Wrth ddatgan ei chefnogaeth i’r cynllun mae Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans yn cydnabod bod yna ffactorau negyddol posib i’r cynllun, gan gynnwys effaith hirdymor posib ar y tir.

Ond yn ei llythyr mae’n dweud bod “buddion y cynllun yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol”, gan gynnwys amcan tymor hir targed Llywodraeth Cymru o gynhyrchu 70% o’r trydan a ddefnyddir trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030 er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.


BBC News

Advertisements

See also  Super League: St Helens 16-10 Hull FC - Saints win to move second

Check Also

Welsh Lib Dem leader says party should be more exciting

Part of the solution, Dodds argued, was making sure people know the Liberal Democrats have …

Nations League: Wales won’t fear star-studded Portugal – Jordan James

Jordan James insists depleted Wales will not be overawed when they line up against “the …

Women’s Lions tour a ‘top goal’ for Wales prop Sisilia Tuipulotu

Tuipulotu, 23, exploded onto the international scene in the 2023 Six Nations, where she earned …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime