google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhyddhau llythyr am doriadau budd-daliadau

Advertisements

Mae’r sefyllfa wedi troi yn broblem wleidyddol yng Nghymru, am fod lefel cymharol uchel o bobl y wlad yn hawlio budd-daliadau, ac ar ôl i Morgan ddweud bythefnos yn ôl ei bod “yn bersonol wedi siarad â rhif deg” am ei phryderon.

Cafodd copi o lythyr Morgan i Kendall, ar 11 Mawrth, ei rannu gyda’r cyfryngau.

Ond mewn sesiwn ym mhwyllgor y senedd ddydd Gwener, fe wnaeth y prif weinidog gadarnhau nad oedd wedi siarad â’r prif weinidog Keir Starmer ac nad oedd yn medru cofio enwau’r rhai y bu’n siarad â nhw.

Yn yr un sesiwn, fe wnaeth Morgan ddweud ei bod yn gwrthod cefnogi’r newidiadau nes ei bod yn cael mwy o wybodaeth.

Mae gwleidyddion eraill o’r blaid Lafur wedi beirniadu’r cynlluniau.

Dywedodd yr aelod sy’n cynrychioli Blaenau Gwent yn y Senedd, Alun Davies fod rhai o’i etholaeth “wedi dychryn”.

Fe wnaeth AS Llafur Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden, ailadrodd yr alwad am dreth cyfoeth, gan ddweud mewn neges ar X y bydd “bywydau yn cael eu byrhau” o ganlyniad i’r newidiadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai penderfyniad y person a yrrodd y llythyr yw a ddylid ei ryddhau.

Mae BBC Cymru wedi holi’r adran Gwaith a Phensiynau os ydyn nhw’n bwriadu gwneud hynny.


BBC News

Views: 1

See also  Toni Schiavone: Gorchymyn i dalu hysbysiad parcio uniaith Saesneg

Check Also

‘Jôc’ oedd sylw ‘Welsh lad?’ medd aelod Reform wedi honiad o hiliaeth

Mr Banks oedd ymgeisydd Reform yn yr etholiad ar gyfer maer gorllewin Lloegr yn 2025, …

Reform's Arron Banks says message that sparked racism claim was joke

Banks wrote “Welsh lad?” in response to a video from a black Plaid Cymru activist. …

Teulu o Gaernarfon yn uno ar gyfer cystadleuaeth Hyrox

Mae Chloe yn mwynhau mynd i’r gampfa yn ei hamser hamdden. Ymunodd ei chwaer hefyd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
[/gpt3] i finally found john’s secret phone number – and you ….  / casa may centro benidorm.