google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

Faint wyddoch chi am ffynhonnau arbennig Cymru?

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, dechreuodd ymchwilwyr gwyddonol archwilio pa fwynau oedd i’w canfod yn nŵr ffynhonnau hynafol. Daethant i’r casgliad bod dyfroedd sawl ffynnon yn cynnwys mwynau defnyddiol fel sylffwr, haearn a magnesiwm – mwynau all fod o fudd wrth drin nifer o faterion iechyd amrywiol gan gynnwys problemau gyda’r croen a phoenau yn y cymalau. Rhoddodd y pwyslais lled-newydd ar fwynau beth hygrededd i rai o hen ffynhonnau Cymru.

O Landrindod i Lanwrtyd, Llanfair-ym-muallt a Llangamarch mae nifer o ffynhonnau mwynol ym Mhowys, ac yn sgil y ffynhonnau arbennig daeth y trefi a’r pentrefi yma’n ganolfannau o bwys i ymwelwyr.

Ym 1760, treuliodd yr hynafiaethydd, Lewis Morris, chwe diwrnod yn Llandrindod yn ceisio gwella. Bu’n yfed y dŵr gyda phob pryd o fwyd ac fe ddaeth yn argyhoeddedig yn ei allu llesol. Yn dilyn ei ymweliad â Llandrindod roedd Morris yn falch o gyhoeddi ei fod bellach yn gallu mynd ar gefn ei geffyl heb gymorth a hynny am y tro cyntaf ers dwy flynedd.

Er bod dŵr Ffynnon Cegin Arthur ym mhlwyf Llanddeiniolen, Gwynedd yn adnabyddus am ei phwerau iachusol ers o leiaf yr unfed ganrif ar bymtheg daeth y ffynnon i amlygrwydd ym 1858 pan gyhoeddodd Dr Arthur Wynn Williams lyfryn yn dadansoddi cynnwys mwynol cyfoethog y dŵr.

Roedd yfed dŵr y ffynnon yr un mor llesol ag ymdrochi yn ôl bob sôn. Mae Dr Williams yn cyfeirio at fochyn a gafodd ei iacháu ar ôl i’w berchennog rhoi diod o ddŵr y ffynnon iddo i’w yfed!

Roedd modd prynu dŵr Ffynnon Cegin Arthur yn lleol hefyd; sefydlwyd cwmni KANSCO (King Arthur’s Natural Springs Company) yng Nghaernarfon i botelu a dosbarthu’r dŵr.


BBC News

Advertisements

See also  Ioan Nicholas: Scarlets versatile back signs new deal

Check Also

Ysgolion Meidrim a Llangyndeyrn i gau ddiwedd y flwyddyn

Cyn y cyfarfod dywedodd, Glyn Harbour, llywodraethwr yn Ysgol Meidrim ei fod yn poeni am …

Women’s World Cup play-off final: Why Norway win may not send Wales to Brazil

However, Finland’s semi-final victory against Serbia has changed the picture. As a League B runner-up, …

Lions women to warm-up for New Zealand with France Test in Cardiff

Men’s Lions tours, featuring players from England, Scotland, Wales and Ireland, have taken place since …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime