google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llywodraeth Cymru ‘ddim am gael popeth’ y mae eisiau – Morgan

A5f7e540 37f4 11f0 8947 7d6241f9fce9.png

Advertisements

Roedd y drafodaeth gyda Syr Keir yng nghyfarfod Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yn “gadarnhaol iawn,” yn ôl Ms Morgan.

Dywedodd wrth BBC Cymru mai “cyflawni blaenoriaethau’r cyhoedd” ydy llwyddiant iddi hi, gan ddweud mai dod â rhestrau aros i lawr, gwella’r rheilffyrdd ac adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol ydy’r rhain.

“Mae’r holl bethau yma ond yn bethau all gael eu cyflawni oherwydd ein bod wedi derbyn yr arian hwnnw gan Lywodraeth y DU,” meddai.

“Fe wnes i’r achos, mae’n rhaid i ni gyd fod yn amyneddgar a gweld beth ddaw allan o’r adolygiad gwariant.

“Dwi’n glir nad ydyn ni’n mynd i gael popeth yn yr adolygiad gwariant, ond yn amlwg fyswn i’n siomedig os nad ydyn ni wedi glanio ambell i bwynt.”

Ychwanegodd Ms Morgan bod cynnal perthynas adeiladol yn “bwysig iawn” iddi.

“Rydym yn deulu, teulu’r Blaid Lafur. Mi wnawn ni barhau i gyd-weithio gyda’n gilydd,” meddai.


BBC News

Views: 0

See also  Benidorm death murder probe and water company fined over sewage breaches

Check Also

Lluniau: Cysau pêl-droed cofiadwy Cymru

Wrth i dîm pêl-droed dynion Cymru baratoi i wynebu Ghana mewn gêm gyfeillgar, fe fydd …

Disgyblion o Fôn yn rhan hanfodol o ymdrech achub ar y môr

Erbyn i’r criw achub gyrraedd y ddynes a’i chi, roedden nhw’n dioddef yn yr oerfel …

CBAC yn ymddiheuro am gamgymeriad mewn papur TGAU Cymraeg

“Hoffai CBAC ymddiheuro am y gwall wnaeth effeithio ar rai myfyrwyr oedd yn ateb ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.