google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llys yn clywed i gar ‘siglo’ cyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhowys

Advertisements

Dywedodd ei fod “mewn cyflwr o sioc a phanig” ar ôl y ddamwain.

Esboniodd ei fod wedi gorfod dod allan o ochr y teithiwr gan nad oedd yn gallu agor drws y gyrrwr. Cerddodd i ffwrdd rhag ofn i’r car fynd ar dân.

“Mae fy nghof yn eithaf aneglur,” meddai, ond dywedodd ei fod wedi gweld car ei frawd a mynd i mewn, cyn colli ymwybyddiaeth.

“Roeddwn i’n meddwl fy mod i ar fin marw,” meddai.

Wrth gael ei groesholi gofynnodd bargyfreithiwr yr erlyniad John Philpotts i Mr Ben Yusaf pa un ohonyn nhw awgrymodd gadael y lleoliad ar ôl y ddamwain?

Atebodd ei fod ef, Abubakr, am “fynd i’r ysbyty”.

Gofynnwyd iddo pam nad oedd wedi aros am ambiwlans ac fe ddywedodd ei fod “yn ofni am ei fywyd” a “doeddwn i ddim yn meddwl yn glir”.

Cwestiynodd y bargyfreithiwr hefyd a oedd yn iawn nad oedd yn gwybod bod ei frawd yn gyrru y tu ôl iddo?

“Ni fyddai unrhyw ffordd i mi wybod,” meddai, “roeddwn i’n canolbwyntio ar y ffordd.”

Dywedodd Mr Ben Yusaf hefyd wrth y llys y byddai’n “anghytuno” â thystion a oedd wedi rhoi tystiolaeth yn dweud ei fod yn gyrru’n rhy gyflym ac yn beryglus.

Ychwanegodd fod “wir ddrwg ganddo” a’i fod yn “edifar” am yr hyn a ddigwyddodd.

“Allai ddim dychmygu beth mae’r teulu’n mynd trwyddo” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  'How did Mahomes do that?' - best plays of Thanksgiving

Check Also

England Under-19 call for Glamorgan pair Norton and Wallace

Meanwhile, Glamorgan batters Jack Hope-Bell and Jacob Blades are in a shadow England development squad …

Lawson Creighton: Ospreys interested in signing Australian fly-half

Ospreys are interested in signing Australian fly-half Lawson Creighton. The 27-year-old, who can also play …

Maggie O’Farrell: ‘Eisteddfod yn rhan fawr o fi’n dod yn awdures’

Felly ydy Maggie, sy’ wedi gweld ei gyrfa’n gweddnewid yn dilyn llwyddiant y ffilm Hamnet, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
© 2026 coconut point residences. heavy equipment transport allegheny pa.