google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

Llynnoedd hudolus Cymru, mewn chwedl a hanes

Un a ysgrifennodd am hanes Llyn Syfaddan oedd y croniclydd o Faenorbŷr, Sir Benfro, Geraldus Cambrensis – neu Gerallt Gymro.

Yn un o’i gyfrolau mae’n cyfeirio at chwedl yn ymwneud ag Adar Syfaddan sydd, yn ôl pob tebyg, ddim ond yn canu ar orchymyn gwir dywysog Deheubarth Cymru.

Yn ôl Gerallt Gymro, roedd Gruffudd ap Rhys yn cerdded ryw ddiwrnod ar hyd glannau’r llyn gyda dau arglwydd Normanaidd. Gwrthododd yr adar ganu pan ofynnodd yr arglwyddi iddynt ond ar orchymyn Gruffudd, canodd yr adar gan gyhoeddi mai ef oedd gwir Dywysog y Deheubarth.

Llyn arall sy’n derbyn sylw gan Gerallt Gymro ydy Llyn y Cŵn yng nghadwyn mynyddoedd Y Glyderau yn Eryri. Er nad oes pysgod yn y llyn erbyn heddiw, mae Gerallt Gymro’n cyfeirio at y creaduriaid arbennig a oedd yn arfer byw yn y llyn gan gynnwys math o frithyll, pysgod garw, a llyswennod ag un llygad yn unig!


BBC News

Advertisements

See also  England and Wales to play Wembley friendly

Check Also

Swansea City: Stephen Welsh knee injury adds to misery at Portsmouth

Matos said he was unsure what sparked the melee because he was “already inside”. But …

Voters 'duped' over Covid inquiry and arsonists torched three homes

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Welsh government mini-budget passes after Plaid-Labour deal

The Senedd has passed the Welsh government’s mini-budget, nearly four months after the original version …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime