google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llyn Tegid: ‘Mae ‘na sbwriel ym mhobman’

Nid dyma’r tro cyntaf i Mr Roberts gael trafferth gyda chŵn ar ei dir. “‘Dw i wedi colli tri hwrdd wrth y llyn, un wedi cael ei redeg nes iddo farw a dau wedi cael eu rhedeg i’r llyn a boddi, felly mae’n digwydd, adeg yma mae’n beryg, rhaid i ni watsiad o hyd amdanyn nhw.”

Dywedodd Mr Roberts fod yr holl beth yn cael effaith arno fel ffermwr: “Distress… mi yda ni’n gorfod bod yn wylliadwrus o hyd o beth sy’n mynd ymlaen, a gorfod dibynnu ar bobl yn rhoi cŵn ar dennyn.

“‘Dw i wedi gofyn i fwy nag un i’w rhoi nhw ar dennyn, a ‘di cael un yn troi rownd a deud ‘I’m on a public footpath, I don’t have to’.

“Mae’r ceir yn gyrru yma… o ran cerddwyr, mi nawn nhw adael giatiau’n ‘gored, cŵn heb dennyn.”

“Mae lot [o bobl leol] yn cwyno alla nhw ddim mynd at y llyn, mi fasa nhw’n lecio defnyddio’r llyn fatha pawb arall, ond gan fod hi mor brysur lawr yne, dydyn nhw ddim yn mynd yna,” meddai.

Er yr effeithiau negyddol, mae Mr Roberts hefyd yn gweld manteision twristiaeth yn yr ardal.

“Be faswn i’n lecio fwya’ ydi os fysa twristiaeth, ffarmio a phobl yr ardal yn gweithio law yn llaw – rhoi parch i bobl leol a phan mae nhw’n dod yma, mynd â’u ‘sbwriel gyda nhw.”


Source link

See also  13 o blant wedi'u hanafu ar ôl digwyddiad yn ffair Porthcawl

Check Also

Network Rail sues companies for £5m over Llanegennech derailment

Network Rail is suing two rail companies for more than £5m after a fuel spill …

Cardiff City news: Brian Barry-Murphy ‘mindful’ over defenders before Norwich tie

“With regard to Tuesday, with the players who have been doing all the training and …

Cneifio 3,282 o ŵyn i godi arian er cof am anwyliaid

Mae dau ffermwr o ogledd Powys wedi cwblhau her gneifio eithriadol dros y penwythnos ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime