google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llun o’r Ynys Werdd o Ynys Lawd… gyda ffôn symudol!

Pan aeth y ffotograffydd brwd, Alwynne Jones, i Ynys Lawd oddi ar arfordir Ynys Môn i drio cael llun o’r goleudy gyda’r machlud, ychydig a wyddai y byddai’n cael llun o olygfa hyd yn oed mwy trawiadol.

Llwyddodd i dynnu llun llachar o’r haul yn disgleirio dros Fynyddoedd Wicklow draw dros Fôr Iwerddon, a hynny gyda’i ffôn symudol.

“Mae arfordir Ynys Môn yn arbennig i ffotograffwyr dynnu lluniau trawiadol,” eglura Alwynne, sy’n aelod o Glwb Camera Caernarfon ac yn tynnu lluniau ers blynyddoedd, “yn enwedig adeg stormydd!”

Dim ond “falle unwaith neu ddwywaith y flwyddyn” mae modd gweld Iwerddon o Ynys Môn, meddai. Tybed a gafodd ‘the luck of the Irish’ i gael y llun yma?


Source link

Advertisements

See also  Mam a gwympodd 30 troedfedd yn 'lwcus i fod yn fyw'

Check Also

County Championship: Dean Elgar leads Essex fightback v Glamorgan

Essex resumed at 100-7 but added just 29 runs in 12 overs as Toole made …

URC: Sharks 41-24 Ospreys – South Africans dominate Mark Jones’ men

Sharks: Giliomee; Hartzenberg, Julius, Koster, Bester; Moyo, Jaden Hendrikse; Ganyane, Swart, Koch, Rahl, Landsberg, P …

Netball World Cup: Wales beat Ireland 33-76 to keep qualification hopes alive

Welsh Feathers kept alive their Netball World Cup qualification hopes with a comfortable 76-33 win …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime