google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llawfeddyg o Aberystwyth yn cyfaddef twyll dros dynnu ei goesau

Wedi i’w goesau gael eu tynnu, roedd Hopper yn ôl yn ei waith mewn llai na chwe mis gyda choesau prosthetig, clywodd y llys.

Cafodd ei arestio ym Mawrth 2023, ac mae wedi cael ei wahardd o’r gofrestr feddygol ers Rhagfyr 2023.

Yn amddiffyn Hopper, dywedodd Andrew Langdon KC bod y troseddau wedi bod yn “sioc” i’w ffrindiau.

“Mae e wedi bod yn ymrwymedig i weithio er gwasanaeth i bobl eraill,” meddai.

“Mae’r saga yma yn anodd iawn deall.”

Dywedodd Mr Langdon fod Hopper wedi dioddef gyda dysphoria’r corff ers yn blentyn, ac nad oedd eisiau ei draed am eu bod yn “achosi anesmwythder” iddo.

Ychwanegodd nad yw Hopper yn edifar y llawdriniaethau, ond ei fod yn edifar yr “anonestrwydd” am eu hachos.

Dywedodd Mr Langdon, wedi’r llawdriniaethau, fod Hopper wedi cael cymaint o gefnogaeth gan ei deulu a’i ffrindiau, oedd wedi ei gwneud hi’n fwy anodd dweud wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd.


BBC News

Advertisements

See also  Gwent Police officers shared 'vile' and 'shocking' messages, hearing told

Check Also

Dolly Parton sings Jolene in Welsh in recording released after her death

A new version of Dolly Parton’s Jolene is set to be released, with parts of …

Cerddoriaeth – a phaned o de – yn uno diwylliannau Cymraeg ac Arabaidd

Daw’r enw, Panedeni, o ‘paned’ Cymraeg a the Adeni o Yemen, sydd yn adlewyrchiad perffaith …

14 mlynedd o garchar i ddyn wnaeth dagu ei wraig i farwolaeth

Cafodd datganiadau ar ran teulu Tracey Davies eu darllen yn y llys fore Gwener. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime