google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 29 2026

Llandudno: Arestio gyrrwr bws ysgol am droseddau cyffuriau

Mae gyrrwr bws ysgol wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Cafodd y dyn 45 oed o ardal Llandudno ei arestio toc wedi 17:00 brynhawn Mawrth ar yr A5 ger Corwen ar ôl methu prawf cyffuriau ar ochr y ffordd.

Fe wnaeth y dyn brofi’n bositif i fod dan ddylanwad canabis.

Nid oedd unrhyw ddisgyblion ar y bws ar y pryd.

Mae’r dyn bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod disgwyl canlyniadau o ragor o brofion gafodd eu cynnal.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod yr ysgol, yr awdurdod lleol a’r cwmni bws yn ymwybodol o’r digwyddiad.


Source link

Advertisements

See also  Conor Coady: Wrexham close in on signing Leicester City defender

Check Also

Rheilffordd arfordir y gogledd i gau am fis yn y flwyddyn newydd

Yn ystod tair wythnos gyntaf y gwaith, bydd y rheilffordd ar gau rhwng Caer a …

Wrexham brothers who both had meningitis B say they are lucky to be alive

Saul was 17 and on a school trip when he first started feeling cold and …

Scabies outbreak at Prince Philip hospital closes wards

A Welsh hospital has restricted visitors and closed two wards following an outbreak of scabies. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime