google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 29 2026

Dysgu Cymraeg mewn 15 mis diolch i bobl Llanrwst

“Fe wnes i syrthio mewn cariad efo dysgu a darllen. Dwi newydd orffen Seren Wen ar Gefndir Gwyn – dyna fy hoff lyfr rwan.”

Erbyn hyn mae Parker yn gwirfoddoli gydag ymgyrch i brynu siop lyfrau Bys a Bawd Pawb yn Llanrwst.

“Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig i gadw siop lyfrau Cymraeg fel hwb cymunedol. Dyma’r olaf yn Sir Conwy, felly mae’n bwysig i ni ei gadw.

“Mae hefyd dau fflat uwch ben y siop, a’u hatal rhag troi yn fflatiau AirBnB. Mae hynny yn bwysig i ni.”

Fe fydd Parker yn dychwelyd adref i’r Unol Daleithiau yn fuan i ymweld â’i deulu, ond mae’n bwriadu dychwelyd i Gymru ym mis Mehefin er mwyn mynd i’r Eisteddfod.

Wedi hynny, yr uchelgais yw mynd i Brifysgol Bangor er mwyn hyfforddi i fod yn gwnselydd, ac mae’n gobeithio gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac wrth siarad efo Aled, roedd yn amlwg ei fod yn barod yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i Lanllechid.

“Dwi wedi creu cysylltiadau efo pobl yn y cymunedau. Fe wnes i drio cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn llynedd, a wnes i ddim ennill a roeddwn i’n siomedig.

“A wedyn dwi’n cofio fy ffrind yn Llanrwst yn dweud wrtha’i ‘Ti’n rhan o Llanrwst rŵan, ti’n rhan o’r stori yma. Does dim ots os ti’n ennill unrhyw beth fel yna’.

“Fe wnaeth hynny i mi deimlo’n rhan o’r lle yma.”


BBC News

Advertisements

See also  'Trawma' disgyblion o weld trywanu Ysgol Dyffryn Aman

Check Also

Jac Northfield: Dim Byd fel gwneud comedi

Roedd Jac a Gwion eisioes wedi bod yn gwneud eitemau byr doniol i Hansh S4C …

‘Panig’ yng Ngheinewydd ynghylch dyfodol gwasanaeth meddyg teulu

Mae Gill Hopley yn poeni, yn gyn-gynghorydd sir, mae’n galw am wneud mwy i geisio …

Rheilffordd arfordir y gogledd i gau am fis yn y flwyddyn newydd

Yn ystod tair wythnos gyntaf y gwaith, bydd y rheilffordd ar gau rhwng Caer a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime