google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llai yn ceisio am le prifysgol – ond pam?

Yn ôl ffigyrau diweddaraf UCAS roedd 33.8% o bobl ifanc 18 oed Cymru wedi gwneud cais am brifysgol – o’i gymharu gyda 41.9% ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r bwlch yma yn destun gofid meddai Gwen Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru “o safbwynt goblygiadau hirdymor ar y gweithlu yma yng Nghymru, ar ein heconomi ni ac ar ein cymdeithas ni”.

Ond mae’r rhesymau tu ôl i’r ffigyrau’n debygol o fod yn gymhleth, meddai.

Mae yna bryder cynyddol wedi bod am ddyledion graddedigion – y ddyled ar gyfartaledd i fyfyrwyr Cymru erbyn hyn yw £37,360.

Dywedodd y gallai’r cynnydd mewn costau byw fod yn “ffactor” ond mae angen deall “pam mae’r ffigyrau yma’n edrych mor ofidus i ni yng Nghymru pan mae’r ffactorau yn reit debyg ar draws Prydain”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ceisio deall y sefyllfa gyda chymorth arbenigwyr a thystiolaeth.

Mae’r broblem yn “ehangach nag addysg uwch” meddai llefarydd, gan addo diweddariad ar ymateb polisi’r llywodraeth yn yr hydref.


Source link

Views: 0

See also  The Cwmbran bakery helping to tackle pollution with cream cakes

Check Also

Death Valley star says ADHD diagnosis made her feel lucky to be actor

Keyworth, who was born in Aberystwyth, said ADHD (attention deficit hyperactivity disorder) was not spoken …

Ex-Everton wing Rhys Hughes relishing Champions League bow with TNS

After leaving Tranmere, Hughes joined Connah’s Quay in August 2024. “Going part-time is different but …

‘Angen defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r efengyl’ – Y Parchedig Glyn Wise

Fe wnaeth Glyn fwynhau paratoi a gwneud ei gymun cyntaf o flaen ei rieni yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Enzo ferrari figure.