google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llai o anafiadau ar ffyrdd 20 a 30mya yn nhri mis olaf 2023

Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r gostyngiad yn nifer yr anafiadau.

Dywedodd llefarydd bod y blaid “wedi datgan yn glir bod egwyddor gwneud ein ffyrdd yn saffach i’n cymunedau yn bwysig, ac mae yna arwyddion calonogol bod gostwng y terfyn cyflymder yn cyflawni hynny”.

Ychwanegodd: “Rydym hefyd wedi cefnogi – a chynnig Plaid Cymru wnaeth sicrhau – adolygiad sy’n mynd rhagddo i’r polisi 20mya, i weld ble mae’n gweithio a ble allai orfod gael ei addasu.”

Yn ôl llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Asghar, ni allai Llafur ddefnyddio’r ffigyrau i ddatgan bod y polisi 20mya yn llwyddiant.

“Rwy’ wedi dweud ers sbel bod 20mya yn gwneud synnwyr tu allan i ardaloedd sensitif fel ysgolion, ysbytai a mannau addoli,” dywedodd.

“Dyw e ddim yn gwneud synnwyr ar gefnffyrdd prysur ble dydy pobl a thraffig ddim yn agos i’w gilydd.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir y byddwn ni’n dileu terfyn cyflymder 20mya hurt Llafur a’i weithredu mewn ardaloedd sensitif ble mae ei angen.”


Source link

Views: 1

See also  Met Office confirms sunniest spring on record

Check Also

Dwy gadair ‘gelfydd’ â chysylltiad arbennig i’w dangos yn Yr Ysgwrn

Bydd dwy gadair sydd â chysylltiad arbennig yn cael eu harddangos yn Yr Ysgwrn – …

Y salon sy’n rhoi hyder i gleifion canser

Ond roedd Cath eisiau rhoi mwy o gefnogaeth i gleifion canser na gwirfoddoli’n wythnosol yn …

Jade Jones: Olympic great using ADHD diagnosis to box clever after taekwondo switch

Jones’ next taste of boxing will come on 13 June when she takes on Argentine …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
"pusat jual paving block terdekat bekasi 2026 | solusi terpercaya untuk proyek anda".