google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llafur yn addo gofal iechyd meddwl ‘hawdd i’w defnyddio’ os yn ennill etholiad

Advertisements

Fe fyddai’r blaid Lafur yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl sy’n “hawdd i’w defnyddio” ar draws Cymru petawn nhw’n ennill etholiadau nesaf y Senedd.

Mae’r Prif Weinidog, Eluned Morgan yn lansio ymgyrch etholiad ei phlaid yng Nghasnewydd ddydd Llun, gan addo “canolbwyntio ar y pethau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywyd bob dydd”.

Mae Llafur yn gaddo “trawsnewid” gofal iechyd meddwl gyda gwasanaethau yr un diwrnod a phrofion ar gael ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.

Mae plaid Eluned Morgan mewn llywodraeth yn y Senedd ers i’r sefydliad agor 27 o flynyddoedd yn ôl, ond mae polau piniwn yn awgrymu y gallen nhw ddod yn drydydd tu ol i Blaid Cymru a Reform UK ym mis Mai.

Nid dyma’r tro cyntaf i Lafur gyhoeddi cynlluniau am wasanaethau yr un diwrnod, sy’n adeiladu ar y gwasanaeth iechyd meddwl brys 111 ‘pwyswch dau’.

Mi fydd Eluned Morgan hefyd yn addo gwella trafnidiaeth i ysbytai, i fod yn fwy llym ar bobl sy’n gadael sbwriel yn anghyfreithlon, ac yn cynnig gwarant ail-hyfforddi am oes, fel bod gweithwyr yn gallu cael cymorth i ddychwelyd neu aros yn y gwaith.

Mae Llafur eisioes wedi cyhoeddi uchafswm tocynnau bws o £2, a chyflog drwy’r flwyddyn i gymhorthyddion dosbarth.


BBC News

Views: 1

See also  Elite League Grand Final: Nottingham Panthers edge Cardiff Devils in 4-3 overtime thriller

Check Also

Going inside the secret bunker built to survive nuclear war

At the height of Cold War tensions, the UK had plans about what to do …

Strangulation survivor says crime reporting rise is good news

The Institute for Addressing Strangulation, external (IFAS) was created in October 2022 with funding from …

Nations Championship: Wales aim to make rugby headlines in football-mad Argentina

Thursday was Argentina‘s national independence day, when celebrations and pomp and ceremony brought parts of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime