google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llafur wedi ‘methu â chyfleu’r neges’ yn isetholiad Caerffili

Dywedodd Llyr Powell ar ôl y canlyniad, ei fod wedi derbyn bygythiadau i’w fywyd a’i fod wedi cael ei aflonyddu yn ystod yr ymgyrch a’i fod yn beio Llafur am hynny.

“Rwy’n siomedig iawn ac yn lwcus, mi welodd y pleidleiswyr trwy eu sarhad, eu hofn,” meddai Mr Powell.

Ychwanegodd eu bod nhw yn “haeddu bod yn y gwter fel roedd eu hymgyrch yn perthyn”.

Dywedodd Irranca-Davies fod angen i’r blaid arwain ag “ymgyrch gadarnhaol” a’u bod wedi “methu’n llwyr” a “siarad am y buddsoddiad yn yr etholaeth honno, ac mewn iechyd”.

Dywedodd am ymgeisydd ei blaid, Richard Tunnicliffe: “Dydw i ddim yn meddwl y gallai Richard fod wedi gwneud mwy, a dweud y gwir… cafodd Llafur eu gwasgu allan o’r gystadleuaeth hon.

“Doedden ni ddim yn rhan ohoni mewn gwirionedd, ac o’r cychwyn cyntaf, pan ddaeth rhai o’r polau piniwn cynnar allan, roedd pobl yn gwneud dewis clir iawn, gan ddweud, sut ydym ni’n atal Reform?

“Rwy’n gobeithio bod yr hyn y byddwn yn gwneud wrth symud ymlaen nawr i fis Medi ar sail gadarnhaol ynglŷn yr hyn fydd y cynnig – beth yw ein record, amddiffyn yn erbyn cyni a’r hyn a wnaethom dros y 12 mis diwethaf.”


BBC News

Advertisements

See also  Ceidwadwyr 'yn ymwybodol' o gŵyn yn erbyn Laura Anne Jones

Check Also

Swansea City: John Toshack watches on as Vitor Matos’ table-toppers eye own history

Swansea’s next two fixtures – against last season’s play-off semi-finalists Millwall and promotion favourites West …

Man dies at scene of motorbike and car crash in Swansea

A man has died following a crash between a motorbike and a car in Swansea. …

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn y de

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime