Dywedodd ffynhonnell o fewn y blaid Geidwadol bod yr achwynydd yn yr achos wedi codi pryderon am fwlio gydag uwch aelod o staff y Ceidwadwyr cyn cysylltu â’r Comisiynydd Safonau.
Dywedodd y ffynhonnell fod yr aelod o staff wedi “diystyrru’r” cwynion bwlio gwreiddiol.
Yn ôl ffynhonnell blaenllaw arall o fewn y blaid mae ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal ar ôl i’r mater gael ei godi’n uniongyrchol â Mr Davies yn ddiweddar.
Mewn datganiad blaenorol, dywedodd Ms Jones: “Byddaf yn cydweithio’n llawn ag unrhyw ymchwiliad i’m gweithgareddau fel Aelod o’r Senedd, fel y byddai disgwyl i unrhyw aelod.
“Mae’r broses safonau yn gyfrinachol, a bydden i’n disgwyl i eraill beidio gwneud sylwadau parhaus amdani, rhag peri risg i hygrededd y broses.”
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn gwybodaeth gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd a’i fod yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd “nad oes unrhyw gŵyn swyddogol wedi dod i law Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Arweinydd y Grŵp na’r Blaid Geidwadol.
“Cyfrifoldeb aelodau unigol o’r Senedd yw eu staff, sy’n cael eu cefnogi gan Gymorth Busnes i Aelodau’r Senedd, gyda’r llawlyfr staff yn gweithredu fel canllaw.
“Mae’r achwynydd wedi dewis gwneud cwyn i’r Comisiynydd Safonau. Mae hwn yn broses cyfrinachol ac ni fyddwn yn gwneud sylw pellach hyd nes bod y broses honno wedi dod i ben.”
Source link
Best Electronic Deals.
Discover the Best Electronic Deals on Amazon Today. Grab Hot Discounts on Top Tech! Don't Miss Out! 🔥 Save Big Now!