google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Llacio cyfyngiadau feirws y tafod glas yng Nghymru

Advertisements

Dywedodd prif swyddog milfeddygol Cymru, Richard Irvine: “Mae’r tafod glas yn glefyd a allai fod yn ddinistriol, fel y gwelwyd yn anffodus mewn gwledydd eraill.”

Ychwanegodd, yn dilyn adolygiad o bolisi’r tafod glas, fod newidiadau graddol wedi’u cytuno er mwyn hwyluso gwerthiannau’r hydref mewn ffordd sy’n cydbwyso anghenion y diwydiant yn erbyn y risg o gyflwyno’r clefyd i Gymru.

“Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cydnabod y risg o gael gwared ar gyfyngiadau da byw yn raddol, a’r cydbwysedd y mae’n rhaid ei daro rhwng y gallu i fasnachu a’r risg uwch o ledaenu’r clefyd.

“Drwy drafodaethau, mae’r diwydiant hefyd yn cydnabod ei gyfrifoldebau’n llawn, gan gynnwys yr angen i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion i fynychu gwerthiannau a marchnadoedd, rôl sylfaenol brechu yn erbyn y tafod glas – a’r risg a’r canlyniadau a rennir pe bai’r tafod glas yn dod i Gymru.”

Dywedodd Dr Irvine hefyd fod newidiadau pellach i’r polisi tafod glas yn cael eu hystyried – a allai gynnwys gwneud gwerthu stoc bridio yn haws mewn ‘Marchnadoedd Gwyrdd Tafod Glas Cymeradwy’ yng Nghymru.

Gallai’r rhain werthu da byw sydd wedi’u brechu o Loegr a Chymru.

Gall marchnadoedd wneud cais i ddod yn “farchnadoedd gwyrdd” o ganol mis Medi.


BBC News

Views: 1

See also  Sydney residents react to shark attacks

Check Also

Lee Trundle: Former Swansea City, Wrexham and Bristol City forward joins Cwmbran Town

The Crows finished second in the Ardal South East League – the third tier of …

Arestio tri o Gymru ar ôl canfod 12 tunnell o ganabis gwerth £139m

Cafodd y cynwysyddion eu stopio ym Mhorthladd Southampton ar 6 Mai ar ôl i asiantaethau …

‘Does neb yn haeddu hyn fwy’ – Matthew Rhys am MBE i dad ffrind ysgol fu farw

Mae’r actor a seren Hollywood, Matthew Rhys wrth ei fodd bod tad ei ffrind ysgol, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
With rising fuel costs and long drives posing risks, professional car transport has become essential. Heavy equipment transport st.