google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Lili Jones: 5 peth i’w wneud yn Wrecsam

Advertisements

Dwi ‘di cael season ticket ers o’n i tua chwech oed. Roedd Dad a fi yn mynd nos Fawrth a dydd Sadwrn pan doedd dim llawer o bobl yn mynd.

Calon y dre ydi o, so rhaid i chdi fynd yna. Y clwb pêl-droed ydi tref Wrecsam mewn ffordd. Mae ‘na fwy i’r lle ond dyna sy’n ‘neud y lle ac mae tafarn y Turf yn rhan enfawr o hynny.

I’r Turf oeddan ni’n mynd cyn gêm i gymryd bob dim mewn. Roedd Dad yn cael cwrw ac o’n i’n cael J2O. Mae’r clwb a’r pyb efo teimlad teuluol ac mae’r Turf jest yn pyb sy’n sbesial i fi a rwan mae o’n enwog mae’n grêt cael rhannu hynny efo gweddill y byd.

Ac roeddan nhw’n brilliant pam ‘naeth Dad farw hefyd.

‘Naeth y teulu, y Turf family ‘da ni’n galw nhw, i gyd ddod at ei gilydd a ‘naethon ni gyd gerdded Yr Wyddfa efo’n gilydd.

Dio’m jest yn pyb, mae’n gymaint mwy na hynny – lle mae pawb yn dod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau’r tîm ond hefyd pan mae pethau’n anodd mae pawb yn dod at ei gilydd a ‘dan ni yna i’n gilydd.

Ac mae enw Dad ar y wal. Mae’n neis bod o’n cael bod yna am byth rwan – mae o’n special place i fi.


BBC News

Views: 0

See also  Ystradgynlais residents scared as gardens crumble into river

Check Also

Tom Allen: Scarlets sign New Zealand U20 lock from Hurricanes

Allen is the seventh summer signing for Scarlets who have also recruited New Zealand back-rower …

Ansicrwydd am welyau yn y rhan fwyaf o ysbytai cymunedol Powys

Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fod y cynigion yn dal yn y camau cynnar ac …

Galw am fwy o reoleiddio pecynnau tyllu clustiau cartref

Mae Rhian Mansfield, 42, yn ymarferydd tyllu corff proffesiynol ac yn aelod o’r UKAPP. Mae’r …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime