google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Kenner Jones a fi: Priodi’r twyllwr gorau erioed’

Advertisements

Mae hi’n disgrifio’r Kenner wnaeth hi gyfarfod ar ddiwedd y 1970au fel ‘ffrind hyfryd’: “Cyfeillgarwch oedd y berthynas i gychwyn pan o’n i’n aros gyda fe a’i fam yng Nghaernarfon ac yn ymweld â’r eisteddfod.

“Roedd e’n ddoniol ac yn ddymunol. Ro’wn i’n gallu eistedd a siarad gyda fe am unrhyw beth. Roedd e’n coginio’n dda ac yn gwybod lot am hanes. Ac oedd e’n gwrtais a’n garedig i’w fam.”

Ond nid dyma oedd y Kenner go iawn, meddai.

Yn ôl Lee, nid oedd un moment penodol pan wnaeth hi sylweddoli’r gwir am ei gŵr: “Mi wnes i sylweddoli’n araf bach – dwi wedi fy magu mewn cymuned fach felly bosib mod i ychydig yn naïf ac ro’wn i wir yn credu mai fy mherthynas gyda Kenner oedd fy nghyfle mawr am hapusrwydd – ac hefyd bach o antur.

“Ro’wn i’n caru’r syniad o dyfu i fyny mewn diwylliant newydd a chael ail iaith. Ac mae rhywun fel Kenner yn gwneud ti yn ganolbwynt eu bywyd nhw. Ac yn sydyn ti’n credu fod dy freuddwyd wedi dod yn wir.”

Priododd y ddau yn Vancouver gan fyw yn Surrey am gyfnod ac hefyd yn Canada lle’r oedd Lee yn gweithio fel darlledwr.

Yn ystod y briodas mi aeth Kenner Jones i ddyled mawr, gan ddwyn arian ganddi ac eraill gan gynnwys aelodau o’i theulu ac hefyd gan Blaid Rhyddfrydol Canada le bu’n gwirfoddoli. Bron i Lee gael ei harestio yn ei swyddfa unwaith wedi iddo ffugio ei llofnod ar sieciau.

Roedd yn feistr ar dwyllo pobl, yn ôl Lee: “Roedd e’n edrych mor ddiniwed – dyw e ddim yn edrych fel troseddwr.

“Ond mae ‘na rhywbeth arall – doedd dim arwydd fod e’n dweud celwydd achos does ganddo ddim cydwybod. Heb arwydd o’r celwydd dyw e ddim yn teimlo fel fod e’n fygythiad. Ac mae hynny’n bŵer mawr.”


BBC News

See also  Joel Makin: Welshman targets World top five after 'massive' win

Check Also

Thug jailed for campsite attack and crime gang locked up

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Galw am ohirio cynllun dangos pasport wrth deithio ar fferis i Iwerddon

Gan bod y Deyrnas Unedig a Chymru yn rhan o’r Ardal Deithio Gyffredin (Common Travel …

No unconditional support to arms industry, says Welsh government

The Defence Security Resilience Cymru conference opened on Thursday at the International Convention Centre, near …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime