google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Jonathan Edwards ddim am sefyll yn yr etholiad cyffredinol

Yn ei ddatganiad, fe wnaeth Mr Edwards gyhuddo Plaid Cymru o geisio manteisio ar ddigwyddiad “yn ei fywyd personol er mwyn chwalu ei enw da”.

Ym mis Mai 2020 cafodd Mr Edwards ei arestio pan gafodd yr heddlu eu galw i’w gartref yn Sir Gaerfyrddin, a chafodd rybudd gan yr heddlu am ymosod.

Dywedodd Mr Edwards ar y pryd ei fod yn “wir ddrwg ganddo”, a’i fod yn difaru’r digwyddiad “yn fwy na dim arall yn fy mywyd”.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ganiatâd i ddychwelyd i’r blaid ond sbardunwyd dadl a ddylai gynrychioli’r blaid yn Nhŷ’r Cyffredin.

Roedd mwyafrif o bwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid yn argymell na ddylai ailafael yn ei waith fel AS Plaid Cymru yn San Steffan – gan olygu y byddai’n rhaid iddo eistedd fel AS annibynnol.

Yn ddiweddarach gadawodd y blaid yn gyfan gwbl, gan barhau fel AS annibynnol.


Source link

Views: 1

See also  Amseroedd aros hir am driniaeth ganser yn 'greisis'

Check Also

Eryri overnight parking ban could be paused

Eryri National Park Authority has restricted overnight parking at the car parks since 1 April. …

World Cup 2026: EFL players to look out for

Elsewhere, Hull midfielder Amir Hadziahmetovic will be at the World Cup with Bosnia, as will …

Her tair iaith i’r hyfforddwr rygbi o Drimsaran sy’n ffynnu yn y Côte d’Azur

Ond er gwaethaf yr haul, y dyrchafiad a’r llwyddiant proffesiynol, mae byw a gweithio dramor …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.