google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Isetholiad Caerffili: Sut mae pobl ifanc yn teimlo?

Advertisements

Er gwaethaf y brwdfrydedd yma, dywedodd y bobl ifanc eu bod yn poeni nad ydyn nhw a’u cyfoedion yn cael digon o wybodaeth am wleidyddiaeth.

“Dydw i erioed wedi cael gwers ar wleidyddiaeth, felly dyna pam rydw i’n teimlo fel nad ydw i wedi cael digon o addysg yn y pwnc,” meddai Sam.

“Rwy’n credu os bydden nhw’n gwthio hynny ychydig yn fwy [mewn ysgolion] byddai’n helpu, yn enwedig gyda’r ffaith bod modd pleidleisio yn 16 oed.”

Ychwanegodd Seren, 16: “Rwy’n credu’n gryf nad yw addysg ar wleidyddiaeth yn agos at fod yn ddigon da.

“Dydy pobl ddim yn cael y wybodaeth i bleidleisio felly mae ‘na lawer o bobl ifanc yn pleidleisio ar sail cyfryngau gwleidyddol radical ac nid yw hynny’n iawn cyn yr etholiad.”

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru bod cefnogi dysgwyr i “arfer eu hawliau democrataidd yn rhan orfodol o’r cwricwlwm”.

“Yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026 a’r etholiadau llywodraeth leol yn 2027, byddwn yn parhau i ariannu sefydliadau i ddarparu prosiectau i gynyddu’r addysg ddemocrataidd sydd ar gael mewn ysgolion a gwella ansawdd yr addysg honno.”


BBC News

Views: 0

See also  Cyhuddo pedwar mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed ger Pontypridd

Check Also

Cyfryngau cymdeithasol cynghorydd arbennig Reform yn cynnwys sylwadau hiliol

Mae BBC Cymru wedi cael gweld copïau o ddwsinau o negeseuon Facebook sarhaus, yn aml …

Raising productivity key to higher Welsh wages, says minister

Adam Price wants to halve the productivity gap between Wales and the rest of the …

Councillor told to rearrange cancer appointment to attend a budget meeting quits Labour

Sue Riley says after a year “of trying to get it addressed I have decided …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.