google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo pedwar mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed ger Pontypridd

Advertisements

Mae pedwar dyn wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 22 oed yn Rhydyfelin ger Pontypridd yr wythnos hon.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 00:40 fore Mawrth yn dilyn digwyddiad ar Poets Close, Rhydyfelin.

Bu farw Liam Woolford, o’r Porth yn Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei anafu yn y digwyddiad.

Mae Jake Staples, 24, o’r Porth, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, ceisio llofruddio, clwyfo â bwriad, cynllwynio i anafu rhywun arall, ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Mae Ethan Ross, 23, o Rydyfelin, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, cynllwynio i anafu rhywun arall, ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Mae Abeyshake Karunanithy, 22, o Don-teg, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio, cynllwynio i anafu rhywun arall, ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Mae Jesse Wandera, 30, o Rydyfelin, wedi ei gyhuddo o gynllwynio i anafu rhywun arall.

Bydd y pedwar yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd fore Sadwrn.


BBC News

Views: 0

See also  Matthews to captain England against Australia in Aldcroft absence

Check Also

Brecon man fined for dragging pony tied to a vehicle

Nic de Brauwere, the veterinary expert witness in the case, provided a statement to court, …

Dedfryd arall o garchar i gyn-arweinydd am gam-drin plant yng Ngwynedd

Mae cyn-arweinydd y Cadetiaid Môr wedi cael dedfryd o 15 mlynedd yn y carchar am …

Pryd fydd y polisi i ymestyn gofal plant am ddim yn dechrau?

Dywedodd David Phillips o’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid ddydd Mercher fod llywodraeth newydd Plaid Cymru yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
We look forward to serving you ! hcmfx.