google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Ionawr yn amser i arafu ac i fod yn greadigol’

Cafodd Sian ei hysbrydoli i ymuno gyda’r her ar ôl darllen am brofiadau pobl eraill ar-lein, fel mae’n esbonio: “O’n i’n meddwl se’n grêt os fyddai sesiynau i bobl yn Ionawr gan fod hi’n fis fflat i bobl ar ôl Nadolig.

“Ac oedd hi’n rhywbeth oedd mor hawdd i gael mynediad iddo – s’dim rhaid bod yn artist na dim byd felly, mae’n agored i bawb ac mae ‘na prompt bob diwrnod ym mis Ionawr sy’n neud i bobl gymryd yr amser i neud rhywbeth creadigol, cymryd y meddwl i ffwrdd o’r to do list bob dydd, y gwaith bob dydd.

“Mae’n bwysig i gymryd y cam yn ôl o’r routine a jest gwneud rhywbeth gwahanol – s’dim ots beth yw’r canlyniad, mae’r broses o greu rhywbeth a meddwl am rywbeth gwahanol yn beth da.”

Ac mae wedi tynnu nifer o bobl eraill mewn i’r her hefyd, gan fynd a grŵp o bobl i fyny Coed Gwydyr yn Llanrwst: “‘Natho ni gael ein hysbrydoli gan y coed a chael yr amser i slofio lawr a defnyddio’n synhwyrau – gallu gwrando, twtsiad, teimlo, blasu a chael y cyfle i greu o hynny.

“Mae o’n slofi pethau lawr sy’ beth ‘da ni angen dyddiau yma. ‘Nes i wneud her arall oedd yn tynnu lluniau efo dotiau ac mae’n cymryd amser ac yn dysgu rhywun i slofi lawr a defnyddio amynedd. Mae angen yr amser i neud hynny ac mae’n therapiwtig wedyn achos mae’n cael rhywun allan o’r brên meddwl ac i greu.”


Source link

Views: 1

See also  David Brooks: O frwydro canser i frwydro am le yng Nghwpan y Byd

Check Also

Plaid Cymru taking a lot for granted, Labour MS claims

Elin Jones announced £294m in new spending on Tuesday, with £40m to go on repairs …

Leeds United agree contract with Fulham forward Harry Wilson

Leeds have agreed a long-term contract with Fulham attacker Harry Wilson to become their first …

Dillon Lewis: Wales turn to Dragons prop in problem position

The two tight-heads that played in the Six Nations for Steve Tandy’s side will not …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment.... Heavy equipment transport kern ca.