google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Iolo Williams: ‘Yr angerdd am fyd natur wedi bod yna erioed’

Fe5728e0 25a2 11f0 a4b5 cf8d960fb818.jpg

Advertisements

Un peth sy’n amlwg yn y gyfres yw angerdd Iolo am fyd natur sy’n mynd yn ôl i’w blentyndod yn ardal Llanwddyn yn nyffryn Efyrnwy.

Meddai: “Mae wedi bod yna erioed ers mod i’n fachgen bach. Roedd Mam a Dad yn wych – oedd Taid yn gymeriad a hanner ac roedd o wrth ei fodd yn cael bachgen bach yn mynd efo fo rownd y caeau, ‘nath o ddysgu fi sut i ddal pysgod efo nwylo, pa blanhigion o’n i’n gallu bwyta. Mae’r angerdd wedi bod yna erioed.

“Ac un peth dwi’n dweud wrth bawb – peidiwch colli yr angerdd plentynnaidd sydd gennych chi. Gallai ddim cerdded heibio rhyw foncyff neu garreg fawr heb droi o o gwmpas. Dwi’n gobeithio neith hwnna aros nes mod i yn fy medd.

“Dwi’n sylweddoli beth ydan ni wedi ei golli ers pan oeddwn i’n fachgen bach. Caeau gwair go iawn, ddim y porfa difyw ma ‘da ni’n ei weld heddiw.

“‘Dan ni wedi colli dros 98% o gaeau gwair. Erbyn rŵan sulwair sy’ bobman a does dim amser i bethau flodeuo na hadu, dyw’r adar ddim yn gallu nythu. Dwi wedi gweld y bywyd gwyllt yn diflannu o gefn gwlad a dwi’n angerddol bod ni’n ceisio cael llawer ohonyn nhw yn ôl.

“Rhaid i hwnna fynd ochr yn ochr efo’r tirfeddianwyr – yn ffermwyr, yn fforestwyr ac ati, nhw sy’n berchen y tir. Rhaid i ni weithio law yn llaw ond gallwn ni ddim cario ymlaen fel ydan ni’n neud.

“Dyw’r dewis ddim yna mwyach. Mae hyd yn oed y pobl yn erbyn cynhesu byd-eang yn gorfod derbyn fod y patrymau tywydd yn newid, bod hi’n gynhesach a’n wlypach.”


BBC News

Views: 1

See also  Dwy long wedi taro glanfa oedd achos cau Porthladd Caergybi

Check Also

United Rugby Championship: Cardiff ready to upset the play-off odds at Stormers

Stormers: Willemse; Senatla, Nel (capt), du Plessis, Zas; Feinberg-Mngomezulu, Khan; Mchunu, Venter, Fouche, Smith, van …

'There was always unfinished business between Smithy and Nessa'

There was “unfinished business” between their pair until the show finale, Jones tells Hay Festival. …

‘Ambell’ newid i ddod wedi ymateb ‘positif’ i drefniadau’r Eisteddfod

Dywedodd mai nod hynny oedd sicrhau “bod ni yn ‘neud unrhyw addasiadau sydd yn angenrheidiol …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.