google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ifan Phillips: ‘Y teulu a’r gymuned sy’ wedi bod wrth fy ochr’

“Dwi ‘di sôn am y ddamwain sut gymaint dwi weithie’n teimlo fel bod fi’n adrodd stori rhywun arall ond dyma stori fi. Ddim stori unrhyw un arall yw hwn ond stori fi yw hwn.”

Ym mis Rhagfyr 2021 fe newidiodd bywyd y chwaraewr rygbi ifanc, Ifan Phillips wedi iddo golli ei goes dde mewn damwain beic modur.

Erbyn hyn mae Ifan yn byw gyda coes prosthetig ac mae wedi ysgrifennu llyfr Bachu Cyfle am y diwrnod wnaeth newid ei fywyd a sut mai cefnogaeth teulu a chymuned glos Crymych wedi ei gynnal ers hynny.

Ac un o’r pethau anoddaf i’r sylwebydd rygbi wrth ysgrifennu’r hanes oedd ail-fyw diwrnod y ddamwain a chlywed am yr effaith ysgytwol ar ei rieni, y cyn chwaraewr rygbi Kevin Phillips a’i wraig Iola: “Agorodd e’n lygaid i bach achos wedd lot o agweddau wen i ddim wedi sylweddoli oedd wedi taro nhw fel sut wen nhw’n teimlo gartre’ yn clywed y phone call o’r heddwas diwrnod y ddamwain.

“Wedd hwnna’n rhywbeth wedd yn eitha’ anodd i fi i sylwi beth oedden nhw’n mynd trwy.

“Gyda sefyllfa’r ddamwain dwi wedi delio ‘da fe yn bersonol yn gorfforol ac yn feddyliol achos dwi’n gwybod beth sy’ ishe neud fel bod fi’n gallu defnyddio’r goes prosthetig mor effeithiol â phosib. Ond un peth dwi ddim wedi gallu rheoli yw sut effaith mae wedi cael ar rhieni fi.

“So chi byth moyn gweld unrhyw un o’ch plant chi yn cael damwain na unrhyw beth cas. Er bod fi wedi mwynhau ysgrifennu’r llyfr wedd sawl cyfnod le wen i’n gorfod rhoi’r laptop lawr a chymryd brêc achos wedd e’n bwrw fi bach.”

Yn syth wedi’r ddamwain wrth iddo orwedd ar y ffordd wedi ei anafu, anfonodd Ifan neges i’w rieni i ymddiheuro iddynt wrth iddo ragweld eu poen a’u gofid: “Wen i’n ishte ar y pafin tu fas y stadiwm le wen i ‘di cael y ddamwain a’r peth cynta’ nes i wedd gofyn i Josh (Cole, ffrind Ifan oedd yno ar ddiwrnod y ddamwain) i fynd i ôl y ffôn.

“A textes i grŵp Whatsapp y teulu a gweud fi’n sori a hales i text i Mam a Dad yn dweud fi’n sori.

“A ‘na pryd wen nhw’n ffonio ac oedd Josh a’r heddwas wedi gorfod siarad â nhw.

“Dwi’n cofio bob dim o’r ddamwain lan at y foment nathon nhw roi fi i gysgu.

“Dwi’n cofio dweud ‘plîs rhowch fi i gysgu achos dwi mewn poen’ ond wen nhw ffaelu achos wen nhw’n gorfod neud sgans ar fy nghefn i.

“Dwi’n cofio bob dim.”


BBC News

Advertisements

See also  'Camp pêl-gôl wedi newid bywyd fy mab' medd Mam o Lanelli

Check Also

Dyn, 66, yn pledio’n euog i lofruddio mam i bedwar ar ôl ffrae

Mae dyn 66 oed wedi pledio’n euog i lofruddio dynes yng Nghasnewydd yn dilyn ffrae. …

Spotify’n uwchlwytho geiriau Gwyddeleg i fersiwn Cymraeg o gân Dolly Parton

Yn 2008, yn ystod cyngerdd yng Nghaerdydd, dywedir i Parton ddatgelu ei hachau Cymreig i’r …

Ysbyty sy’n ‘methu’ gyda’r gorau yng Nghymru – yn ôl staff

Mae negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynd ymhellach, gan ddisgrifio Ysbyty’r Faenor fel un …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime