google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , November 4 2026

‘Hynod annhebygol’ cael sector cyhoeddus sero net erbyn 2030 – adroddiad

Mae llywodraeth Plaid Cymru wedi dweud ei bod hi’n uchelgais i Gymru gyrraedd sero net erbyn 2040 – sydd 10 mlynedd yn gynt na’r targed cyfreithiol i Gymru a’r DU.

Yn ymarferol, mae lleihau allyriadau yn golygu newid i raddau helaeth o lo, olew a nwy i ffynonellau ynni glanach fel pŵer gwynt a solar.

Mae hefyd yn cynnwys defnyddio technolegau gwyrdd fel cerbydau trydan a phympiau gwres yn lle ceir petrol neu ddisel a boeleri nwy.

Ond nid yw’n bosib dileu’r holl allyriadau – er enghraifft yr allyriadau sy’n dod o amaethyddiaeth ac awyrennau.

Felly mae angen cyfateb yr allyriadau sy’n weddill â phethau fel plannu coed ychwanegol, adfer mawndiroedd neu ddefnyddio peiriannau i dynnu CO2 allan o’r awyr.

Ond mae cyfyngiadau i’r technegau “tynnu carbon” hyn o ran graddfa a chost.

Dyna pam mae’r rhan fwyaf o’r ffocws ar leihau allyriadau’n sylweddol yn y lle cyntaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  'Twf yn y galw am addysg hyblyg ond llai o gyllid fesul myfyriwr' - Y Brifysgol Agored

Check Also

Swansea City: Stephen Welsh knee injury adds to misery at Portsmouth

Matos said he was unsure what sparked the melee because he was “already inside”. But …

Voters 'duped' over Covid inquiry and arsonists torched three homes

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Welsh government mini-budget passes after Plaid-Labour deal

The Senedd has passed the Welsh government’s mini-budget, nearly four months after the original version …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime