google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Huw Fash: Rhodd ffrogiau priodas yn ‘beth hyfryd i’w wneud’

Advertisements

Mae’r rhodd wedi achosi dipyn o gyffro ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig gan fod ffrogiau sy’ fel arfer yn costio miloedd o bunnoedd yn gwerthu am cyn lleied a £50 neu £100 yn siopau y Groes Goch a’r West Wales Poundies yn Llandeilo.

Mae siop y Groes Goch wedi creu ardal arbennig o fewn y siop ar gyfer y ffrogiau, fel mae Huw yn esbonio: “Siaradais i â’r merched y siop, dwi’n ffrindiau da iawn gyda nhw a dywedon nhw y bydden nhw’n falch iawn o droi rhan o’r siop yn siop fach i briodferch.

“Ac mae yna siop elusen arall yn Llandeilo o’r enw’r West Wales Poundies. Nawr, mae fy nghi Gruff wedi bod yn gefn i fi trwy dialysis. Mae’n gorwedd ar waelod y gwely ac yn dilyn fi bobman.

“Ac fe ddaeth Gruff o ganolfan achub o’r enw West Wales Poundies. Felly, yn amlwg, rhoddais i ffrogiau iddyn nhw.”

Mae’r gymuned wedi cynnig help llaw hefyd yn yr ymdrech i gael gwared ar y stoc o’i siop.

Dywedodd Huw: “Y peth doniol yw ein bod yn cerdded i fyny’r stryd yn cario ffrogiau un ar y tro i’r siopau elusen. Ac roedd gennym ni adeiladwr i mewn yr wythnos hon yn tynnu’r holl reiliau a’r dodrefn i lawr yn y siop ac roedd hyd yn oed yr adeiladwr yn cario ffrogiau i fyny’r ffordd!

“Felly mae’n olygfa eithaf doniol i’w gweld yn Llandeilo y dyddiau hyn. Mae’n beth hyfryd i’w wneud.”


BBC News

See also  'Doedd dim angen i hyn ddigwydd' - Beirniadu'r diffyg hofrennydd i daclo tanau

Check Also

Swansea City: Vitor Matos excited by options with Ross Stewart fit to face Sheffield United

Idah, meanwhile, will be hungry to make a bigger impression in 2026-27 having played second …

Arthur Okonkwo: Charlton Athletic sign Wrexham goalkeeper on loan

Charlton Athletic have signed goalkeeper Arthur Okonkwo on a season-long loan from Wrexham. Okonkwo has …

Appeal of teens’ ‘unduly lenient’ sentences for racist Barry murder rejected

Lord Justice Popplewell paid tribute to Aman’s family who were at the hearing in London …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime