google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Huw Edwards yn pledio’n euog i greu lluniau anweddus o blant

Cafodd Edwards ei arestio ym mis Tachwedd 2023, a’i gyhuddo fis diwethaf.

Mae’r cyhuddiadau’n dyddio o fis Rhagfyr 2020 at Awst 2021, ac yn ymwneud â lluniau a gafodd eu rhannu ar sgwrs WhatsApp, yn ôl Heddlu’r Met.

Dywedodd y llu nad yw’r cyhuddiadau’n ymwneud â honiadau a gafodd eu hystyried gan yr heddlu ym mis Gorffennaf 2023.

“Dyw’r honiadau ddim yn rhan o’r hyn a gafodd ei ystyried gan yr heddlu yng Ngorffennaf 2023. Mae’r honiadau yma wedi cael eu hymchwilio ar wahân ac yn achos ar ben ei hun,” medd llefarydd ar ran yr heddlu.

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae gan y drosedd creu delweddau anweddus ddiffiniad eang yn y gyfraith, a gall gynnwys eu derbyn trwy gyfryngau cymdeithasol.

Fe wnaeth Edwards adael y BBC ym mis Ebrill.


Source link

See also  Singing opera helps Cardiff student cope with Tourette tics

Check Also

‘Ciwio ar fynydd? Dim peryg!’ – y ddadl ar gopa’r Wyddfa

Mae ymwelwyr â’r Wyddfa yn cael eu hannog i barchu pobl eraill trwy ymuno â’r …

FIH Hockey World Cup: Japan edge Wales 3-2

Wales will play Malaysia for 15th place at the Hockey World Cup after a 3-2 …

Ateb y Galw: Glain Llwyd

Un o sêr y sioe Calon sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw. BBC News Khamrah …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime